| |
 |
| |
Paratoi cyn mynd allan i’r maes
Cyn i chi fynd i astudio coed meddyliwch am
eu gwahanol swyddogaethau. |
|
| 1 |
Y disgyblion i ystyried sut mae coed yn cymryd rhan |
| |
- yn eu bywydau.
- yn eu dychymyg.
- mewn llyfrau a ffilmiau.
|
| |
|
| |
Dyma rai o’r swyddogaethau posibl: |
| |
- gwarchod neu ddiffinio ffiniau.
- darparu pren ar gyfer pwrpasau amrywiol.
- darparu bwyd ar gyfer pob math o greaduriaid.
- cynnig cartref i bob math o greaduriaid.
- trawsnewid carbon deuocsid yn ocsigen.
- amddiffyn y pridd rhag ei ddifrodi gan wynt, glaw a thraed.
- darparu nodweddion amlwg yn y tirlun.
- ysgogi teimladau fel edmygedd, dirgelwch ac arswyd.
|
| |
|
| 2 |
“Pe bawn i yn goeden …” |
| |
Y disgyblion i ddewis coeden gyfarwydd mewn cae, coedlan, gardd,
parc neu stryd (hyd yn oed mewn llyfr neu ffilm e.e. helygen
waldio nofelau Harry Potter) yna gweithredu fel ei llefarydd ac
egluro’i swydd i weddill y dosbarth neu’r grŵp. |
Yn y maes
Mae angen dewis man lle ceir digon o goed yn ôl maint y grŵp, fel bod pob disgybl yn medru eistedd neu orwedd dan goeden ar ei ben ei hun, heb siarad na chyffwrdd â neb arall. |
|
| 1 |
Y disgyblion i wisgo mwgwd a |
| |
- chyffwrdd y goeden. Dylid eu hannog
i deimlo rhisgl, dail, brigau, ffrwythau a blagur yn ôl tymor y
flwyddyn.
- gwrando ar sŵn y gwynt yn y dail, ac ar synau adar ac
anifeiliaid.
- defnyddio eu synnwyr arogli ac efallai gwasgu dail marw neu
ffres rhwng eu bysedd a’u ffroenu.
- nodi sut y maent yn teimlo – hapus, tawel, diogel, ofnus.
|
| |
|
| 2 |
Y disgyblion i dynnu’r mwgwd a |
| |
- disgrifio’n fanwl yr hyn a welant e.e. rhisgl, dail, blagur, blodau,
ffwythau, yn ôl tymor y flwyddyn.
- eistedd neu orwedd eto a chraffu ar ganopi’r goeden.
Dylid eu
hannog i sylwi ar fanylion patrymau, lliwiau a gwead.
|
| |
|
| 3 |
Y disgyblion i ddewis dwy goeden go wahanol i’w gilydd e.e.
hen
dderwen a bedwen ifanc a |
| |
- nodi pum peth sydd yr un fath amdanynt a phum peth sydd
yn wahanol e.e. uchder, trwch, siap a lliw y dail, arogl, lliw ac
ansawdd y rhisgl, ffurf y canghennau.
- ar sail y pethau hynny, penderfynu pa nodweddion sydd yn
gyffredin i goed.
|
Yn ôl yn yr ysgol
| 1 |
Y disgyblion i |
| |
- astudio’r rhestr ansoddeiriau isod, sydd mewn parau
gwrthgyferbyniol, ac i nodi pa rai sydd yn disgrifio eu profiad
hwy yn y maes.
- ychwanegu unrhyw ansoddeiriau eraill i fynegi eu profiad.
- ysgrifennu’r geiriau sydd yn mynegi eu profiad personol hwy
ar ffurf dail a’u gludo ar silŵet o goeden ar gyfer mur yr ystafell
ddosbarth.
|
| |
|
| |
| caled |
meddal |
ifanc |
hen |
| tal |
byr |
tenau |
trwchus |
| hardd |
hyll |
golau |
tywyll |
| llyfn |
garw |
deiliog |
noeth |
| iach |
sâl, gwael |
cryf |
gwan |
| poeth |
oer |
afrosgo |
gosgeiddig |
|
| |
|
| 2 |
Y disgyblion i ddewis coeden a |
| |
- llunio disgrifiad ffeithiol ohoni, wedi ei seilio ar eu
harsylwadau yn y maes.
- llunio cerdd fer am y goeden wedi ei seilio ar eu teimladau
a’u meddyliau tra’n agos ati.
|
|
|
|