Mae Doc Penfro yn sefydliad ar wahân i dref Penfro ei hun.
Fedrwch chi ddyfalu oddi wrth enw Doc Penfro beth sydd yno?
Datblygodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau a’r ganolfan filwrol oedd yn amddiffyn yr iard longau. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r dref yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly mae Doc Penfro gryn dipyn yn ieuengach na thref Penfro.
Astudiwch y map a’r awyrlun ar
y dde ac fe welwch fod patrwm strydoedd Doc Penfro yn drefnus iawn gyda llawer ar
ongl o 90º i’w gilydd.
Mae hyn yn awgrymu fod y dref
wedi ei chynllunio a’i hadeiladu ar
yr un pryd yn hytrach na’i bod wedi datblygu fesul tipyn dros amser maith.
|
|
| |
© Y Goron. Cedwir pob hawl. CBHC.
Rhif trwydded: 100017916, 2005. |
| |
|
Cynlluniwyd Doc Penfro ar gyfer garsiwn y llynges ac roedd y strydoedd syth yn hwyluso symud dynion a gynnau ar draws y dref.
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg roedd angen llongau
rhyfel newydd ar y Llynges
Frenhinol a phenderfynwyd sefydlu iard longau mewn lle bach o’r enw Pater, lle
mae Doc Penfro heddiw. Dechreuodd y gwaith
o adeiladu’r iard ym 1814 gyda baracs i’r milwyr oedd yn gwarchod yr iard longau
a’r aber i lawr at y môr.
|

© Y Goron. Cedwir pob hawl. CBHC.
Doc Penfro yn 2001
|
 |
Fedrwch chi weld yr iard longau yn rhan uchaf y llun ar y chwith?
Mae baracs y fyddin yn rhan isaf y llun.
Adeiladwyd mwy na 250 o longau yn Noc Penfro ar gyfer y Llynges Frenhinol rhwng 1814 a 1926.
|
| ©Hawlfraint y Goron: CBHC |
|
Dyma luniau o iard longau y Llynges Frenhinol.
|
|
©Hawlfraint y Goron: CBHC |
Medrwch gael mwy o wybodaeth am wahanol adeiladau’r iard longau trwy chwilio gwefan Coflein www.coflein.gov.uk
| |
© Y Goron. Cedwir pob hawl. CBHC. Rhif trwydded:
100017916, 2005 |
Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg codwyd tai ar gyfer gweithwyr yr iard longau ac fel y tyfodd y gymdeithas codwyd adeiladau eraill.
Fedrwch chi feddwl pa adeiladau ychwanegol y byddai eu hangen ar dref ar ei phrifiant? Ble fyddai’r gweithwyr a’u teuluoedd yn mynd i brynu bwyd, i hamddena neu i gymdeithasu?
Cafodd y Frenhines Fictoria ei choroni tra’r oedd y dref yn cael ei hadeiladu (1837.)
Fedrwch chi weld unrhyw dystiolaeth o hynny ar y map isod?
|
|
© Y Goron. Cedwir pob hawl. CBHC. Rhif trwydded:
100017916, 2005 |
Dyma ddau hen gerdyn post yn dangos dwy o strydoedd Doc Penfro rhywbryd rhwng diwedd yr 1890au a chanol y 1900au.
|
|
Heol Fictoria, Doc Penfro |
Stryd Penfro, Doc Penfro.
Marc post: Rhagfyr 23 1905 |
| |
©Hawlfraint y Goron. O gasgliadau CHCC: Casgliad Thomas Loyd |
Caeodd yr Iard Longau Frenhinol ym 1926.
Fedrwch chi ddyfalu pa effaith gafodd hyn ar y dref?
Rhwng 1930 a 1957 roedd Doc Penfro yn gartref i un o orsafoedd yr Awyrlu Brenhinol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd rhaid amddiffyn y glannau a daeth y lle yn ganolfan bwysig i’r awyrennau môr (flying boats.)
 |
Cymerwyd y llun ar y chwith gan yr Awyrlu ar yr wythfed o Orffennaf 1946.
Fedrwch chi weld rhai o’r awyrennau môr enwog Sunderland yn rhan uchaf y llun? |
| ©Hawlfraint y Goron: Y Weinyddiaeth Amddiffyn |
|
Ar ôl y rhyfel parhaodd yr iard longau i wasanaethu cwmnïau adeiladu llongau preifat a symudodd diwydiannau newydd fel olew i mewn i’r ardal.
Ym 1979 sefydlwyd porthladd Fferi Iwerddon yn Noc Penfro. Mae’r lluniau isod yn dangos y porthladd hwnnw yn 2003.
|
|
©Hawlfraint y Goron: CBHC |
Beth ydy hanes eich tref leol chi?
Ydy hi’n hen dref ganoloesol fel Penfro neu’n dref ddiweddarach fel Doc Penfro, wedi ei hadeiladu o gwmpas diwydiant penodol?
Defnyddiwch Coflein i gael mwy o wybodaeth am adeiladau a safleoedd diddorol yn Noc Penfro www.coflein.gov.uk
I gael mwy o wybodaeth hanesyddol am y dref ewch i wefan http://www.pembrokedock.org/history.htm
I weld lluniau ac awyrluniau o drefi eraill yng Nghymru cysylltwch â Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru neu www.chcc.gov.uk/addysg
Gweler hefyd Gwaith Maes
Hanes Tref Penfro (Angharad Williams)
Awyrluniau Porthmadog a Doc Penfro
|