Lluniau ac addasiad i’r we gan olygydd Gwaith Maes

Yn sicr ddigon, adeiladau yw’r dystiolaeth fwyaf amlwg am orffennol cymuned. Mae’n wir mai ychydig iawn o adeiladau fydd wedi goroesi o rai cyfnodau ac y bydd llawer o siopau a thai wedi cael eu haddasu cryn dipyn dros y blynyddoedd. Er hynny gall eu hastudio’n fanwl ein helpu i ddeall mwy am fywyd pobl y gorffennol ac hefyd i ddeall sut mae’r hanesydd yn defnyddio tystiolaeth.

Mae’n debyg fod llawer yn ystyried fod eu tai
yn fodern oherwydd y dodrefn a’r offer modern sydd yn eu llenwi. Yn yr un modd, mae stryd o siopau’n gwbl fodern mewn un ffordd – cyfrifiaduron, DVDs, ffônau symudol a dillad ffasiynol y tu ôl i ffenestri mawr, llachar. Ond gallwn gasglu llawer o dystiolaeth hanesyddol trwy agor ein llygaid ac edrych yn fanylach ar
yr adeiladau eu hunain.

Muriau

Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y daeth brics
yn ddeunydd adeiladu cyffredin, gyda thrafnidiaeth gyflymach i’w dosbarthu drwy’r wlad. Cyn hynny defnyddid deunyddiau lleol ac fel arfer dim ond pobl gyfoethog oedd yn cael
tai brics gan fod y cynhyrchu a’r cludo’n arafach ac yn ddrytach. Er hynny, codid llawer o
simneiau brics mewn tai carreg gan eu bod yn gwrthsefyll gwres yn well na cherrig a rhaid
cofio hefyd mai brics oedd yn wir y deunydd
lleol mwyaf cyfleus mewn mannau lle ceid
digon o glai ond dim llawer o gerrig addas.
Ond ar y cyfan gallwn ddweud mai cerrig oedd
y deunydd adeiladu mwyaf cyffredin yn ystod y 17eg a’r 18fed ganrif. Cyn hynny, coed gyda phaneli o fangorwaith a dŵb (wattle and daub) rhynddynt oedd y dull mwyaf cyffredin o
adeiladu, er bod amrywiadau lleol wrth gwrs.

Cafodd llawer o dai pobl gyfoethog ac
adeiladau cyhoeddus eu codi o flociau carreg unffurf i greu delwedd o nerth a chadernid a daeth yn ffasiynol i geisio creu argraff grand
trwy blastro dros gerrig garw neu frics sâl a naddu siap blociau yn y plastr.

Mae llawr uchaf y siop hon yn dangos fod yr adeilad wir yn hen, a’r enw’n dangos beth oedd ei swydd ar un adeg.
 
Tŷ hynafol o frics. Mae paentio’r brics yn wyn yn gwneud i’r lle edrych yn hŷn fyth, trwy efelychu adeilad bangorwaith a dŵb.

 

 

Mae adfail yr hen eglwys hon yn dangos yr
adeiladwaith gwreiddiol o dywodfaen coch
(tua’r 14eg ganrif) gyda chlochdy o flociau
ithfaen unffurf a ychwanegwyd tua 1800.

 

 

 

 

 

Dros y blynyddoedd cafodd llawer o dai a siopau eu haddasu a’u moderneiddio e.e. ffenestri newydd, gwydr dwbl, drysau gwahanol, gorchudd “pebble dash,” felly nid yw’r dasg o roi’r dyddiad cywir i adeilad yn hawdd bob tro. Fodd bynnag, mae’n gwbl bosibl fod y rhannau llai amlwg a chyhoeddus wedi aros heb eu newid e.e. is-lawr neu seler, lloriau uchaf, atig neu gefn yr adeilad.

Er fod blaen y siop gyfoes hon yn union yr
un fath â phob un arall o eiddo’r cwmni, mae
ffenestri ac addurn y lloriau uchaf yn dangos
yn glir mai perthyn i Oes Fictoria y mae’r
adeilad.

 

Oherwydd fod brics wedi cael eu defnyddio’n rheolaidd ers cyhyd, gall edrych yn ofalus ar batrwm y gwaith brics ein helpu i ddyfalu’r dyddiad.

 

CLYMIAD LLOEGR
(English bond) - cyn 1700
CLYMIAD FFLANDRYS
(Flemish bond) - ar ôl 1700
CLYMIAD HIR
(Stretcher bond) - ar ôl 1930

 

Ffenestri

Roedd gwydr yn ddrud yn y gorffennol, a chyn canol Oes Fictoria nid oedd y dechnoleg yn bodoli i wneud cwareli gwydr mawr. Felly, ar y cyfan, po hynaf yw’r adeilad, po leiaf fydd y ffenestri a’r cwareli. Cyn y 18fed ganrif, roedd ffenestri mewn bythynnod cyffredin yn fychan iawn ac yn aml yn amhosibl eu hagor. Yng nghyfnod y Chwyldro Diwydiannol, dyfeisiwyd ffenestri “sash” ond cwareli bach sgwâr oedd yn y rhai cynharaf. O dipyn i beth daeth yn bosibl gwneud cwareli mwy ac erbyn canol Oes Fictoria daeth ffenestri “sash” gyda dau banel gwydr yn unig yn ffasiynol. Dyma’r adeg hefyd y daeth ffenestri bae yn boblogaidd.

 

 

 

 

Mae’n werth chwilota am olion ffenestri wedi eu cau â brics. Rhwng 1696 a 1852, roedd y Dreth Ffenestri mewn grym – treth ar bob ffenestr mewn tŷ – ond o 1825 tan 1852 nid oedd yn rhaid talu’r dreth os oedd llai nag wyth ffenestr. Felly, er mwyn peidio â thalu’r dreth, byddai pobl yn cael gwared o nifer o’u ffenestri!

 

Blaen tŷ tref sydd yn dyddio ymhell cyn Oes Fictoria. Cymharwch ffenestri’r adeilad hwn a’r un isod â ffenestri “sash” diweddarach y llun o siop Next
Mae’r ffenestr wedi ei chau yn dangos fod hwn yn dŷ a godwyd yn y lle cyntaf cyn 1825

Toeau

Mae deunyddiau’r to yn amrywio o ardal i ardal. Ychydig o doeau gwellt yr ydym yn debyg o’u gweld bellach. Llechi fydd y deunydd toi mwyaf cyffredin, gyda’u trwch yn amrywio’n ôl ansawdd y llechfaen ond hefyd yn ôl eu hoed – po hynaf y byddant, y mwyaf trwchus a garw. Er fod toeau teils wedi bodoli mewn rhannau o’r wlad ers cyfnod y Rhufeiniaid, mae’r rhan fwyaf o doeau teils Cymru yn dyddio o’r 1920au ymlaen.

Llechi trwchus, garw, ar do un o
eglwysi hynaf y wlad
Llechi o’r 19eg ganrif, y crawiau yn
denau a’r naddu’n gywrain

 

Simneiau

O tua 1400 ymlaen daeth yn arferol i adeiladu simneiau brics oherwydd nad yw brics yn hollti gyda gwres mor hawdd â cherrig ond parhaodd bythynnod y werin i ddefnyddio “simne fawr” oedd yn ddigon llydan i gadw’r cerrig rhag gor-boethi. Doedd dim llawer o gyrn ar ben simneiau cyn tua 1750. Yn ystod Oes Fictoria, gyda’r awydd i wella iechyd y cyhoedd, daeth yn arferol i gael mwy o leoedd tân ac felly mae simneiau mawr a llawer o gyrn yn nodwedd gyffredin o’r cyfnod. Tan 1875, roedd y simneiau yn cael eu gwneud yn ddigon llydan i ganiatáu i blentyn ddringo i fyny y tu fewn iddynt i’w glanhau.

Addurniadau a ffasiwn

Yn ystod y 18fed ganrif, daeth cynnwys elfennau o’r cyfnod clasurol yn ffasiynol yn nhai’r bobl gyfoethog ac mewn adeiladau cyhoeddus – drysau â cholofnau a phedimentau fel eco o hen demlau Groeg a Rhufain.

Daeth y steil Gothig yn ffasiynol hefyd – ffenestri a fframiau drysau bwa fel yn eglwysi’r Oesoedd Canol. Fodd bynnag, Oes Fictoria oedd gwir oes yr addurniadau – patrymau brics a llechi lliwgar, addurniadau ar grib y to a than y bondo, pibellau dŵr a ffensys o haearn bwrw cywrain a gwydr lliw mewn ffenestri. Hoffai pobl ddynwared holl ffasiynau’r gorffennol gyda’r traddodiad Gothig yn amlwg iawn mewn adeiladau cyhoeddus fel eglwysi a llyfrgelloedd.

Ffenestr yn y steil Gothig. Haearn ydy deunydd y ffrâm, sydd yn dystiolaeth mai yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y cafodd hi ei gosod.

Ymlaen i ffurflen cofnodi arolwg o adeiladau

Ymlaen i'r atodiad gwyddoniaeth

 

ATODIAD GWYDDONIAETH
gan John Shakespear

 

1. Edrychwch ar ddeunyddiau gwahanol rannau’r adeiladau yn eich arolwg, a gosodwch nhw yn y golofn gywir isod:

2. Ar wahân i ddal y to i fyny, beth yw pwrpas muriau?

3. Beth oedd mantais defnyddio Clymiad Lloegr neu Glymiad Fflandrys wrth godi waliau “sengl?”
Beth yw manteision waliau dwbl modern?
Gallwch wneud arbrofion technolegol eich hunain i ganfod yr atebion.

4. Beth yw manteision to llechi neu deils yn hytrach na tho gwellt?

5. Pa ddeunydd toi sydd o’r ffynhonnell fwyaf adnewyddadwy a chynaliadwy – llechi neu wellt?

6. Pam mae teils wedi cymryd lle llechi mewn rhannau o’r wlad e.e. cymoedd y De?

7. Fedrwch chi ddyfalu beth yw mantais corn cul yn hytrach na simne lydan?