| |

Mae pawb a phopeth, pob digwyddiad a phob damwain, yn gadael ei ôl. Rhywle, rhywsut, byddant wedi gadael trywydd y gall ymchwilydd craff ei ddilyn a’i ddatrys.
 |
Daeth y gwyddonydd fforensig yn gymeriad amlwg mewn cyfresi teledu, ac o ystyried ei wybodaeth a’i fedr, mae’n anodd deall pam mae dihirod yn poeni troseddu o gwbl. Felly hefyd ditectif yr amgylchedd, sydd yn olrhain hynt a helynt agweddau amrywiol bywyd o’r cyfnodau cynhanesyddol i’r cyfoes. |
| Argoelion hydref |
|
Mae gan y rhan fwyaf ohonom chwilfrydedd di-ben-draw a does dim yn well i ennyn brwdfrydedd na dirgelwch – wedi’r cyfan, dyna gyfrinach cymaint o nofelau a ffilmiau. Dyna felly yw testun nifer o’n herthyglau y tro hwn, gyda’r bwriad o hybu’r gynneddf naturiol o holi a dyfalu ac ymchwilio. Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd a gynigir yn arwain at waith yn y maes gan obeithio agor llygaid yr ifanc i bosibiliadau cudd y cyffredin a’r cyfarwydd.
 |
Pa fath o aeaf fydd hi eleni? Gawn ni eira? Cofiwch am ymchwil Duncan Brown i’r carlwm gwyn. Bellach, Duncan yw cadeirydd Cymdeithas Gwaith Maes (gweler
Pwy ydy pwy) ac os digwyddwch chi weld carlwm yn ei wisg aeaf bydd yn croesawu cael clywed gennych. |
| Gweddillion, chwarel Rhosydd |
|
Am fwy o wybodaeth, cyrchwch Y Carlwm Gwyn yn y Storfa Ddeunyddiau, neu cliciwch ar y botwm Cysylltu ar ben y dudalen gartref.

 |
|
Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad |
|
Cliciwch ar enw'r awdur i fynd ymlaen |
Awyrluniau Hen Ddiwydiant |
|
|