| Nod archeolegwyr yw creu darlun o fywyd yn y gorffennol. Maent yn defnyddio llawer o wahanol fathau o dystiolaeth i wneud hyn ond un o’r rhai pwysicaf yw’r pethau mae pobl yn eu taflu – eu sbwriel. Fel arfer nid ydym yn meddwl amdano ond gall sbwriel ddweud llawer iawn wrthym am ffordd pobl o fyw – beth maent yn ei fwyta, o ble y daw eu bwyd, sut mae’n cael ei brosesu a’i goginio a pha offer a ddefnyddir ganddynt.
Gellir dyddio tomenni sbwriel o ganol y Cyfnod Mesolithig tua 8,000 o flynyddoedd
yn ôl hyd at heddiw. Ym maes archeoleg, defnyddir y term “midden” i ddisgrifio safle tomen sbwriel cynhanesyddol. Mewn ambell i achos, dyma’r unig dystiolaeth fod pobl wedi byw ar y safle.
Trawslun drwy domen sbwriel yn dangos y gwahanol haenau

Gall cynnwys tomen sbwriel cynhanesyddol amrywio ond fel arfer bydd yn adlewyrchu deiet y bobl a daflodd y sbwriel yno. Er enghraifft, prif gynnwys tomenni sbwriel pentrefi ar yr arfordir yw cregyn môr ond ar safleoedd i mewn i’r tir mae tomenni sbwriel yn cynnwys esgyrn gwahanol fathau o anifeiliaid. Weithiau ceir hyd i grochenwaith wedi torri a cherrig fflint, naill ai wedi eu taflu neu wedi eu colli, ac o dan amodau penodol gall defnydd organig fel pren, lledr a brethyn hefyd oroesi. Ambell waith gall cynnwys tomen sbwriel ddangos pa fwyd roedd y bobl yn ei fwyta ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar, cyn i amaethu ddatblygu, roedd pobl yn dibynnu ar hela a chasglu eu bwyd a byddent yn hela gwahanol anifeiliaid ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Yn dibynnu ar gyflwr y domen efallai ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng y gwahanol dymhorau drwy adnabod yr haenau oddi mewn i’r domen.
Ar Ynys Môn mae tomenni sbwriel yn cynnwys tystiolaeth o rai o’r pentrefi cynharaf ar yr ynys. Yn ne orllewin yr ynys cafwyd hyd i lawer o domenni cregyn môr yn yr ardal rhwng Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn sydd erbyn hyn wedi eu gorchuddio â phlanhigfeydd conifferau. Mae llawer o’r tomenni mewn ardal sydd hefyd wedi datguddio esgyrn wedi eu ffosileiddio, cerrig fflint, offer cerrig a chrochenwaith. Gwaith anodd yw dyddio’r tomenni oherwydd nad yw pob un o’r darganfyddiadau yr un oed. Mae rhai o’r fflintiau yn dyddio’n ôl i’r Cyfnod Mesolithig rhwng 7,000 a 9,000 o flynyddoedd yn ôl, tra bod y crochenwaith o fath a elwir y Diodlestri, yn dyddio mae’n debyg o tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Yr unig ddarganfyddiad a gafwyd yn uniongyrchol yno o domen sbwriel yw nodwydd asgwrn y credir ei bod tua 5,000 o oed. Prif gynnwys y tomenni yw cregyn cocos ac efallai iddynt gael eu defnyddio dros gyfnod maith. Hyd yn oed heddiw, mae pobl leol yn dal â hawliau hel cocos ar y traeth.

| Ysgrafelli fflint o Niwbwrch |
Nodwydd asgwrn
o un o’r tomenni cregyn
|
Darnau o grochenwaith y Diodlestri, rhai ag addurn olion cragen gocos arnynt
|
|