ADREF
Tro Trwy'r CoesCyngor Cefn Gwlad Cymru
 

(Prosiect Bioamrywiaeth Ysgolion)
(Addasiad a lluniau gan Gwaith Maes)

Mae’r wybodaeth a gyflwynir yma wedi ei chrynhoi ar gyfer yr ymarfer maes sydd yn dilyn, at ddefnydd disgyblion yn ogystal ag athrawon. Am fwy o gefndir a gwybodaeth, ynghyd â chyfoeth o weithgareddau pellach, gweler Pecyn Bioamrywiaeth Ysgolion gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

 

Tarddiad coetir Prydain
Ar un adeg, roedd coetiroedd a fforestydd dros dri chwarter (75%) o arwynebedd Prydain. Erbyn heddiw mae hyn wedi disgyn i 10% ond er hynny, mae coetir yn dal yn

- rhan bwysig o’n treftadaeth
- un o nodweddion mwyaf amlwg cefn gwlad
- creu cynefin i lawer o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid
- ffynhonnell adnewyddadwy o bren
- cynnig bywoliaeth i gymunedau gwledig.

Daeth yr Oes Iâ ddiwethaf i ben tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl ac wrth i’r hinsawdd wella, roedd coed yn gallu ymledu yn ôl i Brydain o’r De ar draws pont o dir a oedd yn cysylltu’r wlad â gweddill Ewrop. Yn y cyfnod hwn, cyrhaeddodd coed fel bedw, helyg, pinwydd yr Alban, cyll, derw ac ynn.

Tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl, cododd lefel y môr a thorri’r bont, gan ynysu Prydain oddi wrth weddill y cyfandir.
Ers yr amser hwnnw, pobl sydd wedi dod â’r rhan fwyaf o’r coed mwy diweddar i Ynysoedd Prydain am eu bod yn ddefnyddiol neu’n addurniadol.

Mae llawer o goed a ddaeth o wledydd eraill yn werthfawr iawn. Fodd bynnag, mae rhai coed estron yn bygwth bioamrywiaeth y coetiroedd brodorol, am eu bod yn cynnal llai o rywogaethau bywyd gwyllt. Un o’r planhigion mwyaf bygythiol ydy’r rhododendron sydd yn creu llwyni trwchus lle nad oes dim arall yn medru byw ac sydd yn wenwynig i anifeiliaid.

Dwy hen onnen. Roedd ynn ymhlith y coed cyntaf i ddychwelyd i Brydain ar ôl yr Oes Ia ddiwethaf.

 

Coetir hynafol a choetir diweddar
Mae’r disgrifiad hynafol yn addas os oes gan y coetir gysylltiad agos â fforest wreiddiol sydd wedi bod yno’n barhaol ers cyn 1600 O.C. Rydym yn disgrifio coetiroedd a ddaeth i fodolaeth ers 1600 O.C. fel rhai diweddar.

Mathau o goetiroedd ym Mhrydain
Y gwahaniaeth pennaf rhwng gwahanol fathau o goetir yw’r prif goed sydd yn tyfu ynddyn nhw – coed collddail neu goed conwydd. (Defnyddiwch lyfryn Llwybr enw coed (Pecyn Bioamrywiaeth CCGC) neu gyfeirlyfr addas arall i ganfod y gwahaniaethau rhwng y ddau fath.)

Cafodd y fforest drwchus a ymledodd dros y rhan fwyaf o Brydain ar ôl Oes yr Iâ ei galw y fforest wyllt. Ychydig ddarnau yn unig sydd ar ôl erbyn hyn.

Mae llawer o’r amrywiaeth yn y mathau o goetir yn dibynnu ar y gwahaniaeth mewn priddoedd, hinsawdd neu dopograffeg. Mae’r dderwen yn tyfu’n dda ledled Prydain ar amrywiaeth o briddoedd a hinsawdd a’r wernen hefyd ar dir gwlyb a chorsiog, ond dim ond yn Ne Lloegr a De Cymru mae’r ffawydden yn frodorol, yn bennaf ar briddoedd sych a chalchog.

Coed ffawydd. Mae’r llawr oddi danynt yn sych a chysgodol, heb fawr ddim yn tyfu.

 

Coed derw, cynefin i amrywiaeth
eang o fywyd gwyllt
Coed gwern yn ffynnu yn eu
hoff gynefin – tir gwlyb a chorsiog

Newid naturiol mewn coetiroedd
Mae coetir yn newid yn barhaol, weithiau o ganlyniad i weithgaredd dyn (e.e. ei dorri i lawr) ond yn aml oherwydd prosesau naturiol. Gall gwyntoedd mawr ddymchwel coed a bydd tanau – yn aml o ganlyniad i fellt – yn achosi difrod, yn arbennig i blanhigfeydd conwydd.

Ar ben y digwyddiadau eithriadol hyn ceir newidiadau arafach, tymor hir, sydd yn anodd sylwi arnynt yn digwydd. Mae marwolaeth a phydru naturiol y coed yn creu bylchau yng nghanopi’r goedwig, sydd yn caniatáu i blanhigion newydd dyfu o haenen y llawr. Hefyd, ceir proses olyniaeth (succession,) lle mae un grŵp nodweddiadol o blanhigion ac anifeiliaid (cymuned)yn cael ei ddisodli gan un arall nes y daw cymuned gymharol sefydlog a pharhaol. Dros lawer o Brydain, coetir yw pwynt terfynol naturiol proses olyniaeth.

Olyniaeth mewn coetir

Ffurf coetir a’i effaith ar fywyd gwyllt

Yn aml mae llystyfiant coetir yn ffurfio haenau fertigol sydd yn cynnal grwpiau o rywogaethau. Mewn coedwig gollddail, fel arfer gallwn weld pedair haenen.

1. Yn y canopi ceir y coed talaf fel y dderwen, yr onnen a’r ffawydden. Dyma gynefin y rhan fwyaf o’r adar, lle mae’r lindys sydd yn gwledda ar y dail yn fwyd i’r adar mân fel y titw a’r telorion. Yn eu tro mae hwythau yn eu tro yn fwyd i’r adar mawr fel y boncath a’r frân.
   
2. O dan y canopi, mae’r llwyni yn cynnwys coed llai fel cyll, celyn a drain sydd yn gallu tyfu dan gysgod y coed talach. Yma mae cynefin y pathew a safleoedd nythu adar bach fel y dryw a’r titw cynffon-hir. Mae’r aeron a’r cnau yn fwyd i lu o adar ac anifeiliaid, a bydd adar fel delor y cnau a’r gnocell yn dod i lawr o’r canopi i fwydo yma.
   
3. O dan y llwyni ceir haenen y llysiau lle ceir rhywogaethau fel mieri, grug, llus, gwair a phlanhigion blodeuog fel yr helyglys hardd (rosebay willowherb,) clychau’r gog, briallu a blodau’r gwynt (wood anemone.) Yma ceir mamaliaid fel draenogod, cwningod a moch daear, adar fel ffesantod a’r cyffylog (woodcock) ac ysglyfaethwyr fel y llwynog, y carlwm a’r ffwlbart (polecat.)
   
4. Prif rywogaethau haenen y llawr yw’r planhigion syml, isel, fel mwsoglau, llysiau’r afu (liverworts) a chen (lichens,) yn enwedig yn nhiroedd gwlyb gorllewin Prydain. Mae’r haenen drwchus o weddillion dail yn gynefin i ffwng a chreaduriaid bach fel malwod, gwlithod, pryfed cop a moch coed (woodlice.) Daw llawer o famaliaid y coetir fel tyrchod a moch daear yma i fwydo ynghyd ag adar fel y fwyalchen a’r fronfraith.

 

Mae’r canlynol yn gallu bod yn gynefinoedd pwysig
ychwanegol e.e.

- rhisgl coed sydd yn gartref i bryfed a thrychfilod
- ceubrennau (hollow trees) sydd yn safleoedd nythu i adar ac yn glwydfannau i ystlumod
- boncyffion marw sydd yn gynefin pwysig ar gyfer pryfed, chwilod, gwenyn, gwenyn meirch a ffwng.

Mae natur y canopi yn cael cryn effaith ar yr haenau oddi tano. Mae rhai coed fel ynn yn creu canopi gweddol agored lle mae llawer o olau’r haul yn treiddio drwyddo ac felly bydd yr haenau fertigol yn datblygu’n dda. Ar y llaw arall, mae coed fel derw a ffawydd yn taflu cysgod trymach a dim ond lle mae bylchau yn y canopi y ceir haenau cyflawn.

 

 

Rheoli coetir
Ers Oes Newydd y Cerrig (tua 4,000 C.C.) cafodd yr hen fforest wyllt ei chlirio’n raddol. Am dros fil o flynyddoedd cyn 1900, roedd dyn yn rheoli darnau o’r coetir i gynhyrchu cnwd o bren a pholion neu fel “porfa mewn coetir” ar gyfer anifeiliaid.

 

Hyd at 1900, roedd llawer o’r coedwigoedd yn cael eu coedlannu (coppice,) sef torri coed collddail i lawr bron i lefel y ddaear ac yna gadael i’r bonyn gynhyrchu llawer o egin newydd.

 

 

Coedlannu

Fel arfer bydd coed yn cael eu coedlannu mewn clytiau a phob darn o dir yn ei dro yn cael ei gynaeafu unwaith bob cyfnod o 7 – 30 o flynyddoedd. Roedd defnydd amrywiol yn cael ei wneud o’r pren – ffensys, trawstiau to gwellt, dodrefn, tanwydd a golosg (charcoal) i doddi haearn.

Egin gwernen yn fuan ar ôl
cael ei choedlannu
Coed cyll a gafodd eu coedlannu
rai blynyddoedd yn ôl

 

Weithiau roedd coetir yn cael ei ddatblygu’n fforest uchel trwy ddewis coed fel derw, ffawydd ac ynn, gadael iddynt dyfu’n naturiol ac efallai plannu mwy ohonynt. Felly mae fforestydd uchel yn cynnwys lleiniau o goed o’r un math a’r un oedran.

Cafodd coetiroedd eu defnyddio hefyd ers canrifoedd fel cysgod a phorfa i anifeiliaid fel gwartheg, moch a defaid. Yma, yr arfer oedd tocio coed (pollard) – eu torri o leiaf 2m uwchben lefel y llawr i greu boncyff parhaol er mwyn cynhyrchu egin defnyddiol i fyny o gyrraedd yr anifeiliaid.

 
Tocio coed
Helygen a dociwyd gryn amser yn ôl
Toriad diweddar
aildyfiant

Planhigfeydd conwydd modern
O tua 1600 ymlaen, datblygodd yr arfer o dyfu coed mewn planhigfa (plantation) yn ogystal â rheoli coedwigoedd naturiol. Tan 1900, roedd y planhigfeydd hyn yn cynnwys coed collddail brodorol ac anfrodorol ac felly’n gynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt.

Ers tua 1919, daeth y term planhigfa i olygu coetir o goed conwydd – rhywogaethau anfrodorol yn aml. Er mwyn cyfarfod â’r gofyn am bren ym Mhrydain, sefydlwyd y Comisiwn Coedwigaeth i blannu coetir â chonifferau fel sbriws a ffynidwydd sydd yn tyfu’n gyflym.

Planhigfa gonwydd yn dangos yr ymylon syth, annaturiol sydd mor nodweddiadol.
Mae llawr coedwig gonwydd yn dywyll a digroeso i lystyfiant a bywyd gwyllt

Er bod y coed conwydd hyn yn cynhyrchu digonedd o bren masnachol da, nid yw’r planhigfeydd trwchus o goed unffurf yn gynefin da i fywyd gwyllt. Mae’r canopi trwchus yn cadw’r rhan fwyaf o’r golau allan a dim ond ffwng sydd yn medru byw oddi danyn nhw.

Yn fwy diweddar, mae’r Comisiwn a pherchenogion tir eraill wedi cael eu hannog i blannu mwy o goed collddail a llai o goed conwydd.

 

 

COETIROEDD: TAFLEN GOFNODI CYNEFINOEDD

Enw’r goedwig: _____________________________
   
Lleoliad y goedwig: _____________________________
   
Cyfeirnod grid: _____________________________
   
Enw’r ysgol: _____________________________
   
Enw’r disgybl: _____________________________
   
Dyddiad: _____________________________

 

 

Tarddiad y goedwig

1 Pa fath o goedwig yw hi?
Ticiwch y blwch wrth ochr un o’r geiriau canlynol i ddisgrifio’r coed sy’n ffurfio haenau’r canopi a’r llwyni yn y goedwig:

Coed collddail (coed â dail llydan, gwastad)
   
Coed conwydd (coed â dail cul, fel nodwyddau, a chonau
   
Cymysg (coed llydanddail a choed conwydd)

Os yw’r goedwig yn un gymysg, ticiwch un o’r blychau canlynol i ddisgrifio’r cymysgedd.

Collddail gan fwyaf
   
Conwydd gan fwyaf
   
Cymysgedd gweddol gyfartal o’r ddau fath o goed

 

2 Oes unrhyw arwyddion bod y goedwig wedi ei phlannu?
Ticiwch y blychau wrth ochr y disgrifiadau sy’n disgrifio’r goedwig:

Mae ffin y goedwig yn syth ac i’w gweld yn glir
   
Mae’r coed i gyd tua’r un pellter oddi wrth ei gilydd
   
Mae’r coed i gyd tua’r un maint a’r un oedran

 

Tystiolaeth o reoli’r coetir (presennol a gorffennol)

3 Pa fath o ffin sydd gan y goedwig?
Ticiwch y blychau wrth ochr y nodweddion sy’n bresennol ar hyd ffin y goedwig, yna ticiwch un blwch i ddisgrifio a yw’r nodwedd mewn cyflwr da neu wedi cael difrod:

 
Yn bresennol
Mewn
cyflwr da
Difrod
           
Ffens
           
Gwrych (perth)
           
Wal
           
Clawdd
           
Ffos
           
Coed wedi eu tocio

 

 

4. A oes unrhyw anifeiliaid yn pori yn y goedwig, neu unrhyw arwyddion eu bod wedi bod yn pori yno yn ddiweddar?

Rhestrwch unrhyw anifeiliaid a welsoch:

__________________________________
__________________________________
__________________________________
__________________________________

 

Rhestrwch unrhyw arwyddion a welsoch a’r anifeiliaid a’u gadawodd:

Arwydd
Anifail
_________________
_________________
_________________
_________________
_________________
_________________
_________________
_________________

 

5 A oes unrhyw arwyddion o goedlannu (torri coed i lawr i lefel y ddaear a gadael yr egin newydd i dyfu’n goesau defnyddiol)?
Ticiwch un o’r blychau canlynol:

Oes
   
Nac oes

Os oes arwyddion o goedlannu, ticiwch un o’r blychau canlynol i ddisgrifio’r coed hynny:

Wedi eu coedlannu yn ddiweddar
(newydd eu torri i lefel y ddaear a llawer o egin ifanc, byr yn tyfu)
   

Wedi eu coedlannu rywdro ond erbyn hyn wedi eu gadael
(llawer o egin talach neu foncyffion yn tyfu)

 

6 A oes unrhyw arwyddion o docio coed (torri coed i lawr i tua 2-3m o’r ddaear a gadael i’r boncyffion dyfu coesgynau newydd)?
Ticiwch un o’r blychau canlynol:

Oes
   
Nac oes

Os oes arwyddion o docio coed, ticiwch un o’r blychau canlynol i ddisgrifio’r coed hynny:

Wedi eu tocio yn ddiweddar
(newydd eu torri a llawer o egin ifanc, byr yn tyfu ohonyn nhw)
   
Wedi eu tocio rywdro ond erbyn hyn wedi eu gadael
(llawer o egin trwchus, talach yn tyfu o’r boncyff)

 

Amrywiaeth cynefin y goedwig

7. Pa haenau o’r goedwig sydd i’w gweld yn weddol glir?
Ticiwch y blychau wrth ochr yr haenau y gallwch eu gweld:

Y Canopi Yr haen llwyni
       
Yr haen lysiau Haen y llawr

 

8. Pa un yw’r planhigyn mwyaf cyffredin ym mhob un o’r haenau y gallwch eu gweld?

Haen y goedwig Prif rywogaeth
   
Y Canopi ____________________________
   
Yr haen lysiau ____________________________
   
Yr haen wyni ____________________________
   
Haen y llawr ____________________________

 

9. Pa faint o olau sy’n dod drwy’r canopi?
Wrth gerdded drwy’r goedwig, arhoswch sawl gwaith mewn lleoedd gwahanol i geisio amcangyfrif pa faint o olau sy’n dod drwy’r canopi i’r llawr. Ticiwch un o’r blychau canlynol i ddisgrifio lefel gyffredinol y golau.

Digon o fannau golau
   
Cyfuniad o fannau golau a mannau cysgodol
   
Cysgodol gan fwyaf

 

 

10. A oes llawer o hadblanhigion coed a choed ifanc yn y goedwig?
Ticiwch un o’r blychau canlynol:

Llawer
   
Ychydig iawn
   
Dim

 

 

11. A oes arwyddion o sbwriel fel plastig, papur neu wydr i’w gweld yn y goedwig?
Ticiwch un o’r blychau canlynol:

Llawer
   
Ychydig
   
Dim

 

 

12. A oes eitemau mawr fel teiars neu beiriannau golchi wedi eu taflu yn y goedwig?
Ticiwch un o’r blychau canlynol:

Oes
   
Nac oes

 

 

13. Pa nodweddion cynefinoedd eraill sy’n bresennol yn y goedwig?
Ticiwch y blychau wrth ochr unrhyw rai o’r nodweddion a welsoch:

Haenen o wasarn dail (leaf litter)
   
Coed marw ar y llawr
   
Coed marw yn sefyll
   
Mannau golau, agored heb goed canopi
   
Nentydd, pyllau neu fannau corsiog
   
Creigiau neu fannau creigiog