trywydd y Wrach
 

Ddaethoch chi rywdro ar draws enwau yn cynnwys y gair gwrach? Maen nhw i’w cael ledled Cymru – dyna i chi Dyddyn y Wrach ger Bontnewydd yn Arfon, Llwyn y Wrach ger Llanuwchllyn ym Meirion, Blaen Gwrach ym Morgannwg … a llawer mwy yma ac acw. (Yn yr un modd, mae digon o enwau llefydd yng nghefn gwlad Lloegr yn cynnwys witch.)

Pwy neu beth oedd y gwrachod hyn?

Ai cymeriad o fyd Harry Potter oedd y wrach – mam Ron Weasley’n gosod brws i olchi llestri yn y sinc a’i gweill i weu yn y gongl heb neb ar eu cyfyl – neu rywun mwy dychrynllyd a pheryglus?

Wedi’r cyfan, dyma sut byddai’r rhan fwyaf o bobl yn disgrifio gwrach: hen wraig yn byw ar ei phen ei hun, golwg flêr arni, dillad hen ffasiwn efo het bigfain, trwyn a gên fain, cefn crwm, blewiach ar ei wyneb, siarad ac ymddwyn yn wyllt, teithio ar gefn ysgub … rhywbeth fel yna, mae’n siŵr. O, a medru troi pobl yn rhywbeth arall, gwella pob math o salwch a rheibio neu felltithio’n ddidrugaredd.

Does dim amheuaeth nad oedd gan wrachod allu a gwybodaeth y tu hwnt i amgyffred eu cymdogion. Mae tystiolaeth gref eu bod yn gwybod sut i ddefnyddio llysiau a chynhwysion eraill i wella pob math o anhwylderau a chlefydau, ac yn rhoi cyngor diffael ar sut i ddatrys anawsterau cadw stoc a thrin y tir. Am y straeon am felltith gwrachod, mae rhaid cyfaddef fod rhai ohonyn nhw’n codi gwallt eich pen ac yn anodd eu hesbonio’n resymegol.

Mae’r hen lun hwn yn dangos gwrach a’i “chwsmeriaid” – gwraig ddoeth yn siarad â gwerinwyr sydd wedi dod i ofyn am gyngor ganddi.

Gan fod y llun yn perthyn i gyfnod pan oedd mwy o goelio mewn gwrachod nag sydd heddiw, mae’n rhoi syniad go dda i ni o sut roedd gwrach yn cael ei chanfod. Does dim argoel o het bigfain nag ysgubell na dim byd hynod – bwthyn tlawd mewn cyflwr drwg yn gartref iddi ond dyna’r cyfan.

Dyma ddelwedd “gwraig hysbys,” yn aml yn ferch i ddynes debyg ac wedi dysgu cyfrinachau gan ei mam. Mae digon o sôn am gymeriadau tebyg i’w glywed o hyd.

Does dim byd fel bod ar eich pen eich hun os ydych chi am sylwi a chraffu a deall. Mae’n debyg mai ar sail casglu gwybodaeth oedd ynghudd i’r rhan fwyaf y daeth gwrachod i feddu ar y ddawn o ddarogan neu broffwydo. O adnabod eu cymdogion yn dda, roedden nhw’n gweld trwy bobl ac yn deall eu meddyliau - yn dipyn o seicolegwyr cynnar, efallai. Fodd bynnag, rhaid cyfaddef nad ydy hynny’n egluro’r hanesion amdanyn nhw bob tro.

Felly, o ble daeth y syniad o wrach sy’n gyfarwydd i ni?
Gadewch i ni ddadansoddi’r disgrifiad a gweld beth gawn ni.

Hawlfraint y Goron: CBHC
Trwyn y Witch, Dwnrhefn, Morgannwg.
(Olion yr hen blasty yw’r muriau amlwg.) Gall fod gwrach wedi byw ar y penrhyn, ond mae’n debycach mai ar ôl ei thrwyn bwaog y cafodd y lle ei enw.

Nodweddion corfforol?
Bydd hen wragedd yn aml yn arddangos rhai o’r nodweddion hyn – gall crymu, tyfu mwy o flew ar yr wyneb a mynd yn denau ac esgyrnog i gyd ddod fel canlyniad naturiol henaint.

Golwg flêr a dillad rhyfedd?
Byddai hen wraig ar ei phen ei hun yn debyg o fod yn dlawd, a’i dillad yn hen a charpiog. Yn yr oesoedd a fu, gwneid dillad i bara am oes bron a byddai sbarion ar ôl y bonheddwyr yn cael eu gwisgo gan y rhai llai ffodus. Nid cymdeithas ffasiynol i’r-bin-â-fo oedd hi. Het bigfain? Dyma un esboniad: rhwng tua 1350 a 1450 roedd gwisgo hetiau tal gan gynnwys rhai pigfain yn ffasiynol ymhlith y bobl gyfoethog. Faint o’r hetiau hynny fuodd yn llercian mewn cwpwrdd neu gist am ganrif neu ddwy i’w darganfod a’u defnyddio yn ôl y galw? Wedi’r cyfan, mae digon o hetiau swyddogion Nelson ar gael, ddwy ganrif ar ôl brwydr Trafalgar, a chael het i gadw’n sych a chynnes oedd yn bwysig i hen wraig, nid poeni am gadw at y ffasiwn ddiweddaraf!

Siarad ac ymddwyn yn wyllt?
Mae byw am flynyddoedd maith yn unig, heb gwmni, yn medru effeithio ar bobl ac amharu ar eu gallu i siarad yn gall â phobl eraill. A oedd swnio’n ddigroeso a dieithr yn rhan o “grefft” y wrach? Hefyd, da o beth fyddai cadw pobl fusneslyd draw gan fod gwrachod yn derbyn tâl am eu gwasanaeth. Nid peth newydd ydy dynion ysgeler yn ysbeilio’r gwan a’r diamddiffyn, er nad pob dihiryn fyddai’n mentro ymosod ar wrach.

Llyn y Wrach, Conwy

Un prawf ar wrach oedd ei lluchio i bwll o ddŵr i weld a oedd hi’n suddo ai peidio. Ai dyma sut y cafodd y man tawel hwn ei enw?

Ar adegau, cafodd gwrachod eu herlid a’u cosbi’n greulon oherwydd ofergoeledd ac arswyd pobl anwybodus. Roedd pobl yn eu parchu, yn gofyn eu cyngor ac yn ceisio cymorth ganddynt, ond ar yr un pryd yn eu hofni. Yn yr oesoedd a fu, roedd pobl yn ofni gallu’r diafol a’i ddylanwad er drwg ar y byd, ac oherwydd nad oedden nhw’n medru dirnad pwerau’r gwrachod, un esboniad oedd bod perthynas rhwng y wraig (neu’r gŵr) hysbys a’r diafol ei hun.

Rhwng 1500 a 1700, cosbwyd miloedd o drueiniaid ledled Ewrop yn y modd mwyaf erchyll – eu llosgi i farwolaeth, yn bennaf – ar gyhuddiad o ddewiniaeth. Ym Mhrydain, roedd pethau’n dawelach, gan fod y trigolion yn credu fod grym sanctaidd yr Eglwys yn ddigon i’w hamddiffyn, ac ychydig iawn o erlid a fu tan gyfnod y Rhyfel Cartref (1642-49.) I’r Pengrynwyr a’r Piwritaniaid eithafol, nid mater o benderfynu pwy oedd yn rheoli’r wlad oedd yr ymrafael rhwng y Senedd a’r Brenin ond rhyfel ysbrydol rhwng galluoedd daioni a drwg, rhwng Duw a’r diafol. Dyma’r patrwm oedd yn rheoli popeth. Felly, fel rhan o ymosod ar bob agwedd o waith y cythraul ar y ddaear roedd rhaid erlid gwrachod i’r eithaf. Gallai hen wraig gael ei drwgdybio am y pethau lleiaf: pam roedd hi wedi byw i fod yn hŷn na’r arfer? Y diafol yn gofalu amdani, mae’n siŵr. A beth am y gath ar ei haelwyd neu aderyn dof yn dod i gael bwyd? Negeswyr y diafol oedden nhw, wrth gwrs.

Nid dim ond hen wragedd oedd yn dioddef, ond dynion a merched ifanc hefyd. Roedd y Piwritaniaid yn gweld merched yn gywion peryglus y diafol am eu bod yn denu dynion â’u prydferthwch a chafodd nifer eu cyhuddo o fwrw swyn dros ddynion i’w cael i syrthio mewn cariad â nhw. Wrth gwrs, mae llu o hanesion am y gŵr hysbys neu gyfarwydd, y dewin a’r swynwr, ond mae mwy o gyfeirio at wrachod. Gwisgo fel gwrachod ydy’r arfer gan blant sydd am ddathlu Calan Gaeaf, ar wahân i ambell Ddraciwla danheddog! Pam hynny? Efallai bod mwy ohonyn nhw’n byw i fod yn oedrannus, oherwydd yn ôl yr ystadegau meddygol, mae gan wragedd duedd i fyw yn hŷn na dynion.

Ydy cymeriad merch yn gweddu’n well i grefft gyfrin dewiniaeth?
Dyna’n wir fyddai mentro i dir peryglus - cwestiwn y byddai’n ddoethach ei adael heb ei ofyn!