|
|
Yn ddiweddar, mae cryn dipyn o sôn wedi bod ar y newyddion am yr adeilad sydd ar gopa’r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Mae’r adeilad presennol wedi bod yno ers 1935 ac mae nifer o bobl yn dweud bod angen ei adnewyddu. Mae’r caffi, y siop a’r orsaf drên yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.
©Hawlfraint y Goron: CBHC 2003-cs-2136 (1) Dychmygwch eich bod chi’n bensaer (person sy’n cynllunio adeiladau). Pa fath o adeilad hoffech chi ei weld ar gopa’r Wyddfa?
Erbyn hyn, mae cynllun wedi cael ei dderbyn ar gyfer yr adeilad newydd ac mae’r gwaith o godi’r holl arian sydd ei angen yn dod yn ei flaen yn dda. Ewch i www.copar-wyddfa.co.uk i weld y cynllun a gafodd ei dderbyn.
E-bostiwch eich sylwadau neu awgrymiadau i Gwaith Maes trwy wasgu'r botwm cysylltu ar y dudalen gartref.
|