spacer

spacer
 

Trwy gadw at y côd a thrwy ddangos i eraill sut i wneud hynny, fe allwch chi helpu i wneud yn siŵr fod ein harfordir bendigedig yn parhau am flynyddoedd i ddod fel y gall pob un ohonom ei fwynhau.

Cofiwch barchu creaduriaid y traeth. Pe baech yn symud creigiau neu wymon, cofiwch eu rhoi yn ôl yn ofalus wedyn – fe all yr organebau farw’n sydyn iawn os na fyddan nhw wedi eu gorchuddio.

Peidiwch â tharfu ar fywyd gwyllt. Mae’n well i chi wylio o bell gan ddefnyddio sbienddrych. Cadwch gŵn ar dennyn. Cofiwch ei bod yn anghyfreithlon yn awr i chi boenydio neu darfu ar sawl rhywogaeth.

 

Cofiwch edrych ble yr ydych chi’n mynd. Mae traethau a thwyni yn tueddu i gael eu herydu. Cadwch at y llwybrau pren a’r llwybrau eraill sydd wedi eu hen sefydlu.

Cofiwch ofalu amdanoch eich hun! Byddwch yn ofalus ger clogwyni. Mae pob clogwyn yn ansad ac fe all fod yn beryglus. Byddwch yn ymwybodol o amser y llanw er mwyn osgoi gael eich amgylchynu gan ddŵr.

Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Mae sbwriel ar draeth yn beth hyll iawn ac fe all fod yn beryglus i greaduriaid y môr. Fe allwch helpu i leihau’r broblem trwy fynd â’ch sbwriel eich hun adref gyda chi, yn ogystal ag unrhyw fân bethau a welwch gerllaw.

 

Yr unig beth y dylech ei adael ar y traeth yw ôl eich traed. Wrth dyrchu mewn gwaddodion meddal er mwyn cael gafael ar abwyd pysgota, fe allwch ddod ar draws creaduriaid bregus. Llenwch unrhyw dyllau y byddwch yn eu gwneud a chofiwch gasglu pob darn o sbwriel ac unrhyw lein bysgota sbâr – ceisiwch adael y traeth yn union fel y gwnaethoch ei ddarganfod.