spacer

spacer
 

Mae’r deunydd wedi‘i ddethol o becyn addysg Yr Wyddfa gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’i gyflwyno ar gyfer disgyblion yn ogystal ag athrawon. Am fwy o gefndir a gwybodaeth, ynghyd â chyfoeth o weithgareddau pellach, gweler y pecyn addysg ei hun, sydd wedi ei ddosbarthu i holl ysgolion Cymru. Mae’r ymarferion yn dilyn y testun.

Sut le yw’r Wyddfa?

“Un o’r lleoedd harddaf yng Nghymru ac felly yn y byd.” Gan ei bod mor hardd, mae’r Wyddfa wedi denu llawer o arlunwyr ers blynyddoedd lawer. Yn yr un modd, mae’r ardal wedi ysbrydoli llawer iawn o feirdd ac awduron ac mae’n dal i wneud hynny hyd heddiw.

Yr Wyddfa o Tŷ Obri – Kyffin Williams

 

Mae’r darnau sy’n dilyn yn dangos sut mae pobl wedi ceisio cyfleu yr hyn sy’n
arbennig iddynt am yr Wyddfa.

Llidiard uwchlaw llidiardau - a godwyd
I gadw’r terfynau
Ar fynydd oer ei fannau,
A’i werth i gyd wrth ei gau.

Y llynnau gwyrddion llonydd – a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd,
A thynn heulwen ysblennydd
Ar len y dŵr lun y dydd.

   
John Thomas
Gwilym Cowlyd

 

I lawer o bobl eraill, nid yr harddwch sy’n denu ond y cyfle i gerdded yn y mynyddoedd.
Mae pobl eraill yn ymweld â’r Wyddfa er mwyn dringo’r llethrau serth ac i wella’u medrau wrth baratoi ar gyfer dringo mynyddoedd uwch mewn rhannau eraill o’r byd. Daeth Syr Edmund Hillary a’i dîm o ddringwyr i ymarfer ar yr Wyddfa cyn eu cais i fod y cyntaf i gyrraedd copa Everest. Un ohonynt oedd y Cymro, Charles Evans.

Dringo cyffrous ar yr Wyddfa  
   
Y bywyd gwyllt a’r planhigion prin sy’n denu pobl eraill. Efallai mai’r planhigyn mwyaf anghyffredin ac enwog ar lethrau’r Wyddfa yw Lili’r Wyddfa. Yr enw Lladin am Lili’r Wyddfa yw Lloydia serotina. Mae’r enw hwn yn cyfeirio at y dyn ddaeth ar draws y planhigyn hwn am y tro cyntaf, y botanegwr Edward Llwyd. Wrth gerdded yn ardal yr Wyddfa ym 1862 gwelodd y blodyn hardd mewn man cysgodol. Dim ond yn y lleoedd mwyaf anghysbell, lle nad oes pobl na defaid yn crwydro, mae i’w gael.
 
Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina)

Braslun yn dangos dau o’r llwybrau i gopa’r Wyddfa (o daflen Llwybr y Mwynwyr a gyhoeddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)

Allwedd

1 Yr Wyddfa 8 Siafftiau mwyngloddio 15 Llyn Teyrn
2 Bwlch Glas 9 Llyn Glaslyn 16 Pibell ddŵr Cwm Dyli
3 Bwlch y Saethau 10 Crib Goch 17 Baracs Llyn Teyrn
4 Y Lliwedd 11 Llyn Llydaw 18 Llwybr Pyg
5 Igam ogam 12 Melin falu copr 19 Bwlch Llanberis
6 Crib y Ddysgl 13 Tŷ falf 20 Llwybr y Mwynwyr
7 Cyffordd gyda Llwybr Pyg 14 Sarn 21 Pen y Pass

Efallai, i’r rhan fwyaf o bobl, y peth pwysicaf yw gallu dweud eu bod wedi dringo neu gerdded i gopa’r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr. Gan fod cymaint o bobl erbyn hyn yn ymweld â’r ardal i gerdded, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi paratoi nifer o daflenni ar gyfer ymwelwyr. Mae llawer ohonynt yn cynnwys rhybudd am beryglon cerdded ar y mynydd heb y dillad a’r offer iawn. Mae nifer o daflenni hefyd yn dangos y llwybrau cerdded ac yn cyflwyno gwybodaeth am yr ardal. Mae’r rhain yn atgoffa pobl mai ardal ffermio yw hon a bod angen parchu hyn. Hefyd, maent yn cyfeirio at y gwaith cynnal a chadw sy’n cael ei wneud er mwyn diogelu’r amgylchedd a sicrhau datblygiad cynaliadwy.

COFIWCH

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn croesi tir ffermio a phori preifat yng Ngwastadannas, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod ar dennyn.

Ar eich ffordd i’r copa fe welwch dystiolaeth o waith hanfodol adnewyddu llwybrau a wneir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Cadwch at y llwybrau os gwelwch yn dda er mwyn atal erydu pellach.
Gwaith cynnal a chadw ar un o lwybrau
Parc Cenedlaethol Eryri

Darn o daflen Llwybr y Mwynwyr a gyhoeddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Sut mae pobl yn gofalu am yr Wyddfa?

Wrth i’r nifer o bobl sy’n ymweld â’r Wyddfa gynyddu, mae’r angen i reoli a gofalu am yr ardal hefyd yn cynyddu. Ym1949, pasiwyd deddf gan lywodraeth y pryd i ddiogelu’r ardaloedd harddaf yng Nghymru a Lloegr. Penderfynwyd sefydlu’r hyn a elwir yn Barciau Cenedlaethol. Nid “parciau” ydynt yng ngwir ystyr y gair gan nad yw’r llywodraeth na’r cyngor lleol yn berchen ar y tir.

Dynodwyd tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru – Bannau Brycheiniog yn y De, Arfordir Sir Benfro yn y Gorllewin ac Eryri yn y Gogledd.

 

Gwarchodfa Natur Genedlaethol yr Wyddfa

Y prif wahaniaeth rhwng ardaloedd y tu fewn i ffiniau’r Parc Cenedlaethol ac ardaloedd eraill yw’r rheolau ar y defnydd o’r tir a newidiadau i’r adeiladau. Oddi fewn i’r Parc Cenedlaethol mae ardal sy’n derbyn gofal arbennig iawn, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol yr Wyddfa. Sefydlwyd y warchodfa ym 1964 ac fe’i rheolir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Ar y pryd, roedd yr ardal yn dipyn llai na’r un bresennol. Mae’r amgylchedd yn y warchodfa natur yn derbyn gofal gwahanol i weddill y Parc Cenedlaethol a rhoddir mwy o sylw i warchod y planhigion, bywyd gwyllt a’r tirlun fel ag y mae.

 

Un o’r ffyrdd mae rheolwyr y warchodfa yn gofalu am yr amgylchedd yw trwy benodi Warden i weithio ar y safle ac i gadw golwg ar y warchodfa. Mae hyn yn cynnwys cydweithio gyda phobl sydd yn byw yn yr ardal ac â chyrff cyhoeddus megis Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar ac yn rheoli ardaloedd eraill. Erbyn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi prynu darn mawr o’r Wyddfa.

Prif reswm dros sefydlu’r ardal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw presenoldeb planhigion prin sy’n tyfu ar y mynydd. Mae rhai o’r planhigion hyn yn cael eu galw’n blanhigion Arctig-Alpaidd, ac yn dyddio o gyfnod Oes yr Iâ. Mae’r planhigion wedi goroesi ers hynny, dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal â Lili’r Wyddfa, gwelir planhigion fel y tormaen porffor, tormaen yr eira, pren y ddannodd a’r gronnell.
Tormaen porffor  

 

Mae gwarchod cynefinoedd y planhigion hyn yn rhan bwysig o waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn y warchodfa natur. Un o’r cynlluniau sydd ar waith yno yw cynllun Tir Gofal. Gyda’r cynllun hwn, mae ffermwyr yn cael arian er mwyn cydweithio gyda’r Cyngor Cefn Gwlad i ofalu am fywyd gwyllt a phlanhigion mewn ardaloedd fel y warchodfa. Yr un pryd, rhaid gwella dealltwriaeth ymwelwyr i’r ardal o’r angen i ofalu am yr amgylchedd.
 
Rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol yr Wyddfa

 

 

Ymlaen i’r ymarferion

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

TAFLEN WAITH 1A

Lleoli’r Wyddfa (Cyfesurynnau 4 rhif)

Adnoddau: Map Arolwg Ordnans Landranger 115 1:50 000 – Yr Wyddfa
  Map Arolwg Ordnans Outdoor Leisure 17 1:25 000 – Yr Wyddfa

Cofiwch!

Dwyreiniaid yw’r rhifau sy’n mynd o’r gorllewin i’r dwyrain
(o’r chwith i’r dde wrth edrych ar y map.)

Gogleddiaid yw’r rhifau sy’n mynd o’r de i’r gogledd
(o’r gwaelod i’r top wrth edrych ar y map.)

Rhaid darllen neu ysgrifennu’r dwyreiniaid CYN y gogleddiaid wrth ddefnyddio’r cyfesurynnau.

Beth sydd i’w weld yn y sgwariau hyn?

(55, 48) =   (61, 54) =  
(64, 58) =   (54, 54) =  

 

Pa dref sydd o fewn sgwâr (48, 62)?  
Pa bentref sydd o fewn sgwâr (59, 48)?  
Pa lyn sydd o fewn sgwâr (64, 49)?  
Pa wasanaethau a gynigir o fewn sgwâr (64, 55)?  

Ysgrifennch gyfesurynnau’r mannau canlynol:

Yr Wyddfa (……., …….) Llyn Dinas (……., …….)
Rhyd Ddu (……., …….) Crib Goch (……., …….)

Beth sydd i’w weld o gopa’r Wyddfa?
(Sylwch ar y pwyntydd sy’n dangos cyfeiriad y gogledd.)

I’r gogledd orllewin o’r Wyddfa gallwch weld  
I’r gogledd ddwyrain o’r Wyddfa gallwch weld  
I’r de ddwyrain o’r Wyddfa gallwch weld  

Ewch ati i ymestyn y gweithgareddau uchod drwy gynnig 5 tasg debyg ond gwahanol i’r grwpiau eraill o fewn y dosbarth. Cofiwch nodi’r atebion hefyd yn barod ar gyfer eu marcio.

 

 

TAFLEN WAITH 1B

Lleoli’r Wyddfa (Cyfesurynnau 6 rhif)

Adnoddau: Map Arolwg Ordnans Landranger 115 1:50 000 – Yr Wyddfa
  Map Arolwg Ordnans Outdoor Leisure 17 1:25 000 – Yr Wyddfa

Cofiwch eich gwaith ar gyfesurynnau 4 rhif ac mai dwyreiniaid yw’r rhifau sy’n mynd o’r gorllewin i’r dwyrain (o’r chwith i’r dde wrth edrych ar y map) ac mai gogleddiaid yw’r rhifau sy’n mynd o’r de i’r gogledd (o’r gwaelod i’r top wrth edrych ar y map.)

Rhaid darllen neu ysgrifennu’r dwyreiniaid CYN y gogleddiaid wrth ddefnyddio’r cyfesurynnau.

Beth yw enw’r hyn a welir yn y sgwariau hyn?

(570580) =   (592479) =  
(615494) =   (560574) =  

Ysgrifennch gyfesurynnau 6 rhif y mannau canlynol:

Yr Wyddfa (……., …….) Y Garn (……., …….)
Glyder Fach (……., …….) Mynydd Mawr (……., …….)

 

Beth sydd i’w weld?
(Sylwch ar y pwyntydd sy’n dangos cyfeiriad y gogledd.)

Beth sydd i’w weld i’r de ddwyrain o Lyn Llydaw?  
Beth sydd i’w weld i’r gogledd orllewin o’r Glyder Fawr?  
Beth sydd i’w weld i’r gogledd o ochr ddwyreiniol Moel Eilio?  

Tasg ymestyn

Rydych yn aelod o’r tîm achub. Mae angen mynd o ……………………………….

i ………………………………. i achub rhywun. (Defnyddiwch ddau safle tebygol ar y map i lenwi’r bylchau. Disgrifiwch y daith gan ddefnyddio cyfeirnodau grid (cyfesurynnau 6 rhif) ac enwch leoedd amlwg ar hyd y daith).

 

 

 

 

TAFLEN WAITH 2

Lleoli’r Wyddfa (Trafod y tirlun a llunio disgrifiad o’r ardal gan ddefnyddio ffrâm ysgrifennu.)

Geirfa

Enwau: llethr, mynydd, llyn, clogwyn, copa, sgri, llwybr, dyffryn
Ansoddeiriau: serth, cul, uchel, anodd, peryglus

 

Mae ardal yr Wyddfa yn un o ardaloedd mwyaf adnabyddus Cymru
 
 
 
 
 
I’r de o’r Wyddfa
 
 
 
 
 
I’r gogledd o’r Wyddfa
 
 
 
 
 
Mae’r ardal i’r dwyrain
 
 
 
 
 
Wrth edrych ar y tirlun i’r dwyrain
 
 
 
 

 

TAFLEN WAITH 3

Yr amgylchedd – gweithgareddau sy’n cael effaith ar Eryri

Dewiswch weithgareddau poblogaidd yn Eryri a gwnewch asesiad o’u heffeithiau ynghyd â sut i’w rheoli. Bydd angen taflen ar wahan ar gyfer pob gweithgaredd.