
Mae nifer o blant ac oedolion yng Nghymru yn dioddef o anhwylder clefyd y paill
(clwy’r gwair) - hayfever yn Saesneg.) Yn anffodus, yr ifanc sydd yn dioddef fwyaf ac fel arfer bydd hyn yn cychwyn rhywbryd rhwng 13 ac 20 oed. Beth sydd yn achosi clefyd y paill? Ymateb gan y corff yw, sef alergedd yn erbyn paill. Bydd hyn yn digwydd ar adegau arbennig o’r flwyddyn. Y rhannau o’r corff sydd yn cael eu heffeithio yw’r trwyn a’r llygaid sydd yn dyfrio a chosi a theimlo’n anghyfforddus dros ben. Gall achosi cur pen (pen tost), dolur gwddw a llawer o disian!
Beth yw paill?
Rhannau gwrywaidd planhigion ydynt. Mae’r gronynnau paill o wahanol faint a siâp a rhai ohonynt yn ddel iawn. O fewn brigerau’r blodyn y bydd y paill yn cael ei gynhyrchu. Gwaith y paill yw cludo genynnau o un planhigyn i’r llall.
Gweithgaredd 1 – “Am Siâp”
Edrychwch ar ronynnau o baill gwahanol dan feicroscôp da. Dyma’r olygfa a gaech dan feicroscôp da iawn.
| a |
Erwain |
Meadowsweet |
Filipendula ulmaria |
| b |
Glydlus coch,
blodyn neidr |
Red campion |
Silene diocia |
| c |
Marddanhadlen ddu |
Black horehound |
Ballota nigra |
| ch |
Gwyddfin |
Honeysuckle |
Lonicera periclymenum |
| d |
Pibennog |
Pipewort |
Eriocaulon aquaticum |
| dd |
Creulys Iago,
Llysiau'r gingroed |
Common ragwort |
Senecio jacobaea |

Y mae gwahanol blanhigion yn achosi clefyd y paill ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Yn y gwanwyn, paill coed sydd yn achosi gofid. Ar ddechrau haf, o o fis Mai hyd at ddechrau Gorffennaf, bydd paill gwair yn cael ei gynnyrchu. Yn ystod tymor yr hydref paill amrywiaeth o chwyn a sborau ffwng sydd yn achosi’r helynt.
Ydych chi wedi sylwi bod clefyd y paill yn cychwyn yn gynt yn y flwyddyn pan y cawn aeaf mwyn? Mae’r amrywiaeth hwn yn digwydd o gymharu de a gogledd y wlad. Y tywydd gwaethaf i’r rhai sydd yn dioddef o glefyd y paill yw’r amser gorau i blanhigion gynhyrchu paill, sef tywydd poeth gydag awel ysgafn i’w wasgaru. Nid yw’r blodau’n agor ar ddyddiau cymylog a gwlyb, a bydd glaw yn golchi paill o’r awyrgylch. I leihau’r dioddef, gwell yw chwarae allan ar ddyddiau oeraidd neu gymylog wedi iddi orffen bwrw glaw a chofio mai’n gynnar yn y bore y bydd y paill yn cael ei wasgaru o’r blodyn i’r awyr.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae nifer o wledydd Ewrop wedi bod yn cynnal Canolfan Asesu Paill. Yma, byddant yn ddyddiol yn mesur y nifer o ronynnau paill sydd yn bresennol mewn metr giwbig o awyr. Yn ystod tymor cynhyrchu’r paill bydd y niferoedd hyn yn cael eu cyhoeddi a’u trosglwyddo i fap o’r wlad fel cymorth i ddioddefwyr. Gellir cael gwybodaeth debyg ar linell ffôn arbennig (0800 556677), papurau dyddiol a rhaglenni newyddion a thywydd y teledu a’r radio.
CALENDR PAILL PRYDAIN

Bu effaith flynyddol clefyd y paill ac ymateb cryf y corff i baill y rhonwellt (Timothy grass – Phleum pratense) yn ffactor bwysig ym mywyd fy nhad a’i benderfyniad i adael ffermio amser llawn. Roedd ei lygaid yn dyfrio bob haf neu phan yn bwydo anifeiliaid gyda byrnau gwair.
Gweithgaredd 2 – Pa baill a phryd?
Ewch ati i wneud gwaith ymchwil yn eich hysgol i ddarganfod pa ganran o blant, athrawon a rhieni sydd yn dioddef o glefyd y paill. A ydynt i gyd yn dioddef ar yr un amser o’r flwyddyn? Sut y gellid helpu’r plant sydd yn dioddef yn ymarferol, yn enwedig adeg arholiadau haf yr ysgol?
Fel arfer, os yw mynegrif y paill yn cyrraedd mwy na 50, gellir disgwyl y bydd llawer o bobl yn dioddef. Yn yr haf, bydd rhifau dros 200 yn cael eu mesur yn aml. Tri math o wair sydd yn achosi dioddef yw rhygwellt lluosflwydd (Perennial Ryegrass – Lolium perenne), y rhonwellt (Timothy grass – Phleum pratense) a’r gweunwellt llyfn (Smooth meadowgrass – Poa pratensis).
Tybed faint sydd o amgylch eich hysgol ac ar y cae chwarae?
Hefyd, mae’r danadl poethion yn blanhigion cyffredin sydd yn achosi llawer o ofid am eu bod yn gwasgaru llawer iawn o baill.
Gobeithio nad ydych chi’n dioddef yn ddrwg gan glefyd y paill fel 3 miliwn neu fwy o bobl ym Mhrydain ac yn gorfod cymryd meddyginiaeth
gwrth-histamin, yn enwedig trwy gydol arholiadau’r haf. O leiaf, fe wyddoch mai’r pellenni bach cywrain yna sydd yn achosi’r holl drafferth i’ch trwyn a’ch llygaid – egin y genhedlaeth nesaf o blanhigion. |
 |
Gweithgaredd 3 – Ymchwilio paill ar y we
| 1. |
Defnyddiwch y we i gasglu ychwaneg o wybodaeth am baill ac am glefyd y paill yng Nghymru a’r Unol Daleithiau. |
| |
|
| 2. |
Sut mae’r archaeolegydd yn defnyddio gwybodaeth am baill i ddarganfod ym mha rannau y ceid pentrefi yn yr oesoedd gynt? |
| |
|
| 3. |
Sut mae paill o gefn gwlad yn cyrraedd tref yn ymyl y môr fel Caerdydd? |
| |
|
Gwybodaeth i athrawon neu ddioddefwyr:
| a. |
Hybu Iechyd Cymru/Health Promotion Wales.
Llyfrgell a gwybodaeth (01222 neu 029 752222) Gwegyfeiriad: www.hpw.org.uk |
| |
|
| b. |
Health Information Wales - Selfhelp Database National Pollen Forecast Line, Pollen Research Unit, Worcester College of Higher Education, Henwick Grove, Worcester 01719 710444 |
| |
|
| c. |
www.allergy-relief.com |
| |
|
| ch. |
www.bbc.co.uk
|
|