|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Arallgyfeirio 1 [Mae'r geiriau sydd wedi eu tanlinellu yn yr eirfa isod, yn ôl trefn yr wyddor. Cofiwch fod rhai o’r geiriau wedi eu treiglo.]
BETH FYDD DYFODOL FFERMYDD CYMRU
Ym mis Mai 1999 cyhoeddodd y Western Mail arolwg gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr oedd yn dangos fod dau ffermwr allan o bob tri wefi arallgyfeirio er mwyn sicrhau eu dyfodol. Dangoswyd hefyd fod yr argyfwng economaidd yn y diwydiant amaeth yn golygu fod rhai ffermwyr yn derbyn eu holl incwm bron o ffynonellau amgen na ffermio. Ers 1999, mae’r duedd a’r angen wedi cynyddu a’r mater yn parhau’n bwnc llosg ymysg ffermwyr ac aelodau’r Llywodraeth. Pam mae amaethu mewn argyfwng? Beth yw cymhorthdal? Pam mae'n effeithio ar ffermydd traddodiadol Cymru? Daeth dau ryfel byd a dirwasgiad i daro amaethu ym Mhrydain yn galed pan oedd mecaneiddio ond yn dechrau. Hyd at 1940, dim ond ambell fferm oedd â thractor; ceffylau a nerth bôn braich oedd yn gwneud y gwaith i gyd. Ni thyfodd maint y cnydau fawr rhwng 1800 a 1940, ond bu newid mawr o hynny ymlaen. Er mwyn cael ffermwyr i gynhyrchu mwy o fwyd, cychwynnodd y llywodraeth gynllun gwarantu prynu cynnyrch. Golygai hyn nad oedd raid i ffermwyr boeni am farchnata eu cynnyrch, gan y byddai'r llywodraeth yn sicrhau y byddent yn cael elw derbyniol. Gellid cael y cymorthdal hwn ar gyfer popeth, o wenith a haidd i gig oen ac eidion. Gyda datblygiadau technolegol ..... peiriannau hwylus, gwrtaith parod a phla-leiddiaid ..... daeth ffermwyr i gynhyrchu llawer mwy. Erbyn heddiw, gellir cael 12 tunnell o wenith o bob hectar, o gymharu â 3 tunnell ym 1940. Erbyn y 1970au cynhyrchai Ewrop ormod o lawer, a thyfodd y mynyddoedd ŷd ac ymenyn. Gosod y "cwota" ar laeth ym 1984 oedd y neges gyntaf i ffermwyr fod rhaid troi'r cloc yn ôl a chynhyrchu llai. Erbyn hynny, yr oedd llai o alw am gynnyrch traddodiadol fel llaeth a chig, ond o ystyried ymdrechion glew y ffermwyr i wneud eu ffermydd mor effeithiol â phosib, hawdd deall nad oeddent yn canfod gofynion newydd eu cwsmeriaid. Mae pob llywodraeth yn Ewrop yn ceisio cwtogi gwariant ar amaethu sydd yn hybu cynhyrchu bwydydd diangen. Yn Seland Newydd, daeth pob cymorthdal i ben, a rhaid i ffermwyr werthu ar y farchnad agored. Nid yw cig na chynnyrch arall tebyg yn denu prisiau uchel mwyach. Codwyd bwganod am salmonela mewn wyau, listeria mewn caws a BSE mewn eidion, tra mae'r archfarchnadoedd yn mynnu nwyddau rhad. Y canlyniad yw fod incwm ffermydd wedi gostwng yn ddramatig. Ond, mae mwy nag un ffordd o wneud elw o fferm, er enghraifft trwy newid i gynnyrch organig sydd â gofyn mawr amdano. Rydym i gyd wedi clywed am "Wely a Brecwast", safleoedd i bebyll a charafanau, merlota a choedwigaeth, ond beth am droi rhedyn yn wrtaith, cyrsiau golff neu saethu colomennod clai? Mentrau eraill yw ffermio pysgod, tyfu bwydydd arbenigol fel madarch "shitake", magu ceirw neu dyfu cnydau tanwydd fel rêp had oel. Gall ychwanegu gwerth at gynnyrch fferm fel darparu sglodion parod yn hytrach na thatws syml fod yn llwyddiannus iawn. Hefyd, medr ffermwyr ddod at ei gilydd i brosesu, i bacio ac i farchnata'u cynnyrch i gael y gorau o'r hyn sydd ganddynt i'w gynnig. Mae digon o syniadau ar led, mae digon o bosibiliadau ond cael dychymyg, felly rhaid ennill brwdfrydedd ymysg arloeswyr cefn gwlad ..... y ffermwyr eu hunain. Arallgyfeirio 2 “MENTER ARFRYN” – GOLYGFA DDYCHMYGOL Darllenwch yr olygfa isod sy’n digwydd un prynhawn Sul yn ffermdy dychmygol Arfryn rhywle yng Nghymru. Unedau teuluol yw’r rhan fwyaf o ffermydd Cymru, gydag un neu fwy o’r plant yn cymryd yr awenau pan ddaw’r amser i’r rhieni ymddeol. Felly, mae aralllgyfeirio’n aml yn fater i deulu cyfan i’w ystyried. Sylwch ar safbwynt ac agwedd y cymeriadau. (Os ydynt yn siarad yn wahanol i chi, gallwch ail-ddrafftio’r sgwrs yn y dafodiaith sy’n naturiol i chi.)
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||