spacer

spacer
 

Mae’r deunydd wedi‘i ddethol o becyn addysg Y Côd Cefn Gwlad gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a’i gyflwyno ar gyfer disgyblion yn ogystal ag athrawon. Am fwy o gefndir a gwybodaeth, ynghyd â chyfoeth o weithgareddau pellach, gweler y pecyn addysg ei hun, sydd wedi ei ddosbarthu i holl ysgolion Cymru. Yma, cyflwynir yr ymarferion a’r gweithgareddau (A , B ac C) yn gyntaf, gyda chopi o’r Côd Cefn Gwlad cyflawn yn dilyn.

A. CÔD Y CARTREF

Enw:   Dosbarth:   Dyddiad:  

Dychmygwch bod ymwelydd yn dod i aros yn eich cartre. Sut fyddech chi’n disgwyl i’r person hwnnw ymddwyn tra mae’n aros gyda chi?

Gan weithio ar eich pen eich hun, lluniwch restr o reolau ar gyfer yr ymweliad. Y pwyntiau allweddol yw:
  • parch
  • diogelwch
  • bod yn ystyriol/oddefgar o eraill

Pan fyddwch chi’n aros yn fy nghartref i:

Cofiwch

 
 
 
 

Peidiwch â:

 
 
 
 

Mae côd ymddygiad pob cartref yn wahanol, felly mae angen i chi ag aelod arall o’r dosbarth gymharu eich rhestrau a chytuno ar restr newydd o’r deg rheol bwysicaf. Nodwch y rheolau hyn dan y geiriau allweddol.

 

Enwau’r grŵp:

 
 
 

Parch

 
 
 
 
 

Diogelwch

 
 
 
 
 

Bod yn ystyriol/oddefgar

 
 
 
 
 

B. YMWELD Â CHEFN GWLAD

Mae cefn gwlad yn gartref i bobl sy’n ennill eu bywoliaeth yno ac hefyd i fywyd gwyllt o bob math. Yn yr un modd ag yr ydych chi’n dymuno gweld ymwelwyr yn parchu eich cartref chi ac yn ystyried eich ffordd chi o fyw, mae trigolion cefn gwlad yn gofyn am yr un parch ac ystyriaeth.

Yn eich grwpiau, edrychwch ar y côd ymddygiad i ymwelydd i’ch cartrefi chi a thrafodwch sut mae rheolau tebyg yn rheoli ymddygiad ymwelwyr i gefn gwlad. (Cofiwch y tri phennawd – parch, diogelwch a bod yn ystyriol/oddefgar o eraill.)

Wrth ymweld â chefn gwlad, fe ddylai pawb:

 
 
 
 
 
 
 
 

Sut mae’ch rheolau chi’n cymharu â’r Côd Cefn Gwlad ei hun?
Trowch ymlaen at hwnnw a nodwch isod beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol.

 
 
 
 
 

C. HAWL I GRWYDRO?

Mae’r rhan fwyaf o gefn gwlad yn eiddo preifat i rywun (e.e. ffermwyr, stadau, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ond mae gan y cyhoedd hawliau mynediad i rai ardaloedd penodol ond am rai cyfnodau arbennig (e.e. y tu allan i gyfnod ŵyna.) Mae’r ardaloedd lle mae gan y cyhoedd hawl i dramwy i’w gweld yn glir ar fapiau modern. Fodd bynnag, gallai’r bobl sy’n mynd i gefn gwlad achosi problem pe baen nhw’n mynnu gwneud eu hoff weithgaredd ym mhob lleoliad neilltuol.

 

Mewn parau, rhestrwch y gweithgareddau sy’n boblogaidd yng nghefn gwlad yn barod i’w cyfrannu i drafodaeth ddosbarth.

     
     
     
     
     
     
     
     
     
     

 

Enwau:   Dosbarth:  
       
    Dyddiad:  

 

Mewn parau, ystyriwch y gweithgareddau a’r lleoliadau ar y grid.
Pa leoliadau sy’n addas i bob gweithgaredd?

 

Rhowch un o’r symbolau hyn ym mhob bocs:

 


 

Ar ôl llenwi’r grid, ymunwch mewn grwpiau mwy i gymharu canlyniadau ac i drafod pam eich bod yn meddwl bod y lleoliadau’n addas neu beidio ar gyfer y gwahanol weithgareddau. Ar ôl datrys unrhyw anghydfod, penderfynwch ar gynllun gweithgareddau i’w cyflwyno mewn sesiwn o’r dosbarth cyfan.

Y Côd Cefn Gwlad

Mae’r dewis yn eang – o barciau gwledig, traethau, coetiroedd, afonydd a fforestydd i filoedd o filltiroedd o lwybrau tramwy a llwybrau eraill. Fe allwch chi eu mwynhau nhw drwy gerdded, beicio neu drwy fynd ar gefn ceffyl. Fe allwch chi hefyd gerdded ar draws rhai rhannau o gefn gwlad sydd wedi’u dynodi’n dir agored, e.e. mynydd-dir, rhostir, gweundir, twyndir a thir comin.

  • Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion
  • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw
  • Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn
  • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad ble bynnag yr ewch. Trwy wneud hyn, fe fyddwch chi’n gwneud yn fawr o gefn gwlad ac yn cynorthwyo i’w gynnal yn awr ac ar gyfer y dyfodol.

 

Byddwch yn ddiogel
cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion

Hyd yn oed pan rydych chi’n mynd am dro yn eich ardal leol, mae’n well casglu’r wybodaeth ddiweddara’ am ble a phryd rydych chi’n cael mynd. (Mae’n bosib y bydd eich hawliau mynediad i dir agored yn cael eu cyfyngu ar adegau arbennig, e.e. pan fydd gwaith yn cael ei wneud, am resymau diogelwch, neu yn ystod tymhorau magu.) Dilynwch gyngor ac arwyddion lleol, a byddwch yn barod am yr annisgwyl.

  • Cyfeiriwch at fap neu lyfr tywys diweddar, neu ewch i Wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru: www.ccw.gov.uk. Fe allwch chi gael gwybodaeth hefyd o ganolfannau gwybodaeth lleol.
  • Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hunan, ac am ddiogelwch y bobl eraill sydd yn eich gofal. Felly, byddwch yn barod am newid yn y tywydd neu am bethau eraill a allai ddigwydd. Ar www.ccw.gov.uk, fe gewch chi gysylltiadau â mudiadau sy’n cynnig cyngor penodol yngŷn â chyfarpar a diogelwch. Neu cysylltwch â chanolfannau gwybodaeth i ymwelwyr a llyfrgelloedd i gael rhestr o grwpiau gweithgareddau awyr agored.
  • Cyn mentro allan, gwiriwch ragolygon y tywydd. Peidiwch â bod ofn troi’n ôl pe bai’r tywydd yn troi.
  • Rhan o apêl cefn gwlad yw’r cyfle i ddianc rhag y byd a’i broblemau. Mae’n bosib fyddwch chi ddim yn gweld unrhyw un arall am oriau. Cofiwch hefyd fod yna lefydd sydd heb signal clir i ffôn symudol. Felly, gadewch i rywun arall wybod ble rydych chi’n mynd, a phryd i’ch disgwyl chi’n ôl.
  • Gofalwch eich bod chi’n gwybod ystyr arwyddion a symbolau.
    Maen nhw yno i’ch helpu chi i ddod ohyd i'ch ffordd.

 

Rhai o’r arwyddion y gallech eu gweld yng nghefn gwlad

Cyfeirbwynt llwybr troed

Cyfeirbwynt llwybr ceffylau

Cyfeirbwynt cefnffyrdd

Llwybrau Cenedlaethol

Mynediad Agored

Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw

Dangoswch barch at y bobl sy’n gweithio yng nghefn gwlad.
Mae’r hyn rydym ni’n ei wneud yn gallu effeithio ar fywoliaeth pobl, ar ein treftadaeth ac ar ddiogelwch a lles anifeiliaid a ni’n hunain.

  • Mewn caeau lle mae cnydau’n tyfu, dilynwch lwybrau ble bynnag y bo modd. Mae’n bosib y bydd ffermwyr yn gadael gât neu glwyd ar gau er mwyn cadw anifeiliaid i mewn. Fe allai hefyd ei gadael ar agor fel bod anifeiliaid yn gallu mynd at fwyd neu ddŵr. Felly, gadewch y clwydi a’r gatiau, fel rydych chi’n eu cael, neu dilynwch gyfarwyddiadau neu arwyddion. (Os ydych chi’n cerdded mewn grŵp, gofalwch fod y cerddwr olaf yn gwybod sut i adael y clwydi.)
  • Defnyddiwch glwydi a chamfeydd lle bynnag mae hynny’n bosib.
    Mae dringo dros waliau, gwrychoedd a ffensys yn gallu’u difrodi, gan adael i anifeiliaid fferm ddianc.
  • Gadewch i beiriannau ac anifeiliaid fod. Peidiwch ag ymyrryd ag anifeiliaid hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eu bod nhw mewn trafferthion neu’n dioddef. Yn lle ymyrryd, ceisiwch roi gwybod i’r ffermwr.
  • Mae ein treftadaeth yn perthyn i ni i gyd. Gofalwch dydych chi ddim yn gwneud difrod i adfeilion neu safleoedd hanesyddol.
  • Os ydych chi’n meddwl bod arwydd yn anghyfreithlon neu’n gamarweiniol (e.e. arwydd ‘Preifat - Dim Mynediad’ ar lwybr cyhoeddus), cysylltwch â’r awdurdod lleol.

Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt.

Rydyn ni’n gyfrifol am ddiogelu cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn niweidio anifeiliaid, adar, planhigion na choed.

  • Mae gadael sbwriel neu sbarion bwyd ar eich hôl yn gwneud mwy nag amharu ar harddwch cefn gwlad. Mae’ch sbwriel yn gallu peryglu bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, a lledaenu clefydau. Felly ewch â’ch sbwriel adref. (Mae gollwng a thaflu sbwriel yn drosedd.)
  • Fe ddylech chi werthfawrogi harddwch yr amgylchedd naturiol a gadewch i gerrig, planhigion a choed fod. Dyma gartrefi a bwyd adar, anifeiliaid a phryfed, a dyma’r pethau sy’n gwneud mynd i gefn gwlad yn bleser i ni i gyd.
  • Mae’n anodd rhagweld sut bydd anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid fferm yn ymddwyn os ydych chi’n mynd rhy agos atyn nhw, yn enwedig os oes anifeiliaid ifanc gyda nhw. Rhowch ddigon o le iddyn nhw.
  • Mae tân yn gallu niweidio bywyd gwyllt a chynefinoedd yn yr un ffordd ag y mae’n niweidio pobl ac eiddo. Felly, gofalwch dydych chi ddim yn gollwng matsen neu sigaret heb eu diffodd yn iawn. (Ond cofiwch: mae tân yn cael ei ddefnyddio i reoli llystyfiant gweunydd a rhosydd rhwng mis Hydref a dechrau mis Ebrill. Felly cyn ffonio 999, gofalwch nad oes rhywun yno’n gofalu am y tân.)

Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.

Mae cefn gwlad yn lle ardderchog i fynd â’ch ci am dro. Ond, dyletswydd pob un sy’n berchen ar gi yw gofalu dydy’r ci ddim yn peryglu neu’n poenydio anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt neu bobl eraill.

  • Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi reoli’ch ci, a’i rwystro rhag dychryn neu darfu ar anifeiliaid fferm a bywyd gwyllt. Yn y cyfnod rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, rhaid i chi gadw’ch ci ar dennyn byr pan fyddwch chi ar dir agored a thir comin. Rhaid gwneud hynny hefyd trwy gydol y flwyddyn pan fyddwch chi’n agos at anifeiliaid fferm.
  • Cyn belled â’ch bod chi’n cadw’ch ci dan reolaeth dynn, does dim rhaid i chi ei roi ar dennyn ar lwybrau cyhoeddus. Ond, fel rheol gyffredinol, mae’n well ei gadw ar dennyn os dydych chi ddim yn gallu dibynnu arno i fod yn ufudd. Yn ôl y gyfraith, mae gan ffermwyr yr hawl i ddifa cŵn sy’n anafu neu’n poeni eu hanifeiliaid.
  • Os yw anifail fferm yn rhedeg ar eich hôl, mae’n fwy diogel i chi adael eich ci oddi ar ei dennyn. Peidiwch â pheryglu’ch hun trwy geisio amddiffyn y ci.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus i rwystro’ch ci rhag dychryn defaid ac ŵyn. Peidiwch â gadael iddo grwydro i fannau lle y gallai darfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear neu fywyd gwyllt arall. Heb gael eu hamddiffyn gan eu rhieni, mae wyau ac anifeiliaid ifanc yn marw’n fuan.
  • Mae pawb yn gwybod mor annymunol yw baw ci. Mae hefyd yn gallu lledaenu heintiau. Felly, gofalwch eich bod chi’n glanhau ar ôl eich ci bob tro, a’ch bod chi’n cael gwared â’r baw mewn ffordd gyfrifol. Gofalwch hefyd fod eich ci’n cael triniaeth reolaidd ar gyfer llyngyr.
  • Ar rai adegau, fydd cŵn ddim yn cael mynd i rai rhannau o dir agored, neu efallai y bydd yn rhaid cadw’r ci ar dennyn. Dilynwch unrhyw arwyddion. Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y rheolau yma ar www.ccw.gov.uk, neu drwy ffonio Llinell Ymholiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar 0845 130 6229

 

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Drwy ystyried pobl eraill, a pharchu’r bobl hynny, fe fyddwch chi’n gwneud cefn gwlad yn lle gwell i bawb – yn eu cartrefi, wrth weithio ac wrth wneud gweithgareddau hamdden.

  • Mae traffig trwm ar heolydd bach y wlad yn gallu bod yn annymunol ac yn beryglus. Lle bynnag mae hynny’n bosib, gadewch eich car gartref. Meddyliwch am ffyrdd o rannu ceir, a defnyddiwch ffyrdd eraill o deithio, e.e. cludiant cyhoeddus neu feiciau. (I gael gwybod mwy am gludiant cyhoeddus, ffoniwch Traveline ar 0870 606 2608)
  • Parchwch anghenion pobl leol. Peidiwch â pharcio mewn mannau anaddas, e.e. o flaen tai neu ar draws mynedfeydd.
  • Pan rydych chi ar eich beic neu’n gyrru, arafwch i geffylau, cerddwyr ac anifeiliaid fferm. Wrth fynd heibio, rhowch ddigon o le iddyn nhw. (Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a’r rhai sydd ar gefn ceffylau.)
  • Cadwch allan o’r ffordd pan mae anifeiliaid fferm yn cael eu casglu neu eu symud. Dilynwch gyfarwyddiadau’r ffermwr.
  • Helpwch economi cefn gwlad i ffynnu. Prynwch fwyd a phethau eraill o siopau lleol.

 

 

Rhagor o help a gwybodaeth

I gael gwybod sut a ble i gael mynediad i gefn gwlad, cyfeiriwch at www.ccw.gov.uk neu cysylltwch â’ch canolfan ymwelwyr lleol neu’r llyfrgell leol. (Mae rhestrau i’w cael ar www.yell.com)

I gael help gyda hawliau tramwy neu broblemau mynediad mewn mannau penodol, cysylltwch ag Adran Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy’r awdurdod lleol perthnasol, neu Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad yn Lloegr, ewch i wefan Countryside Agency ar www.countryside.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am fynediad yn yr Alban ac am Gôd Mynediad Awyr Agored yr Alban, ewch i wefan Scottish Natural Heritage ar www.snh.org.uk

 

Hefyd rydym wedi llunio Côd ac arweiniad yn ymwneud â rheoli mynediad ar gyfer ffermwyr, tirfeddianwyr a rheolwyr tir.

I weld rhain, edrychwch ar wefan Cyngor Cefn Gwlad.