
Onid dyma hanes pawb a phopeth - mynd a dod, neu efallai, dod a mynd? Newid a datblygiad diderfyn ydy'r grym sydd yn gyrru injan y bydysawd a dyna ydy pwyslais nifer o erthyglau'r gwerifyn diweddaraf hwn, boed ym mynd amaeth, yn ein hamgyffred o sut i warchod trysorau fel yr Wyddfa neu ym muddugoliaeth natur dros ddifrod diwydiant.
 |
| Copa'r Wyddfa, lle mae cryn newid ar y gweill o ganlyniad i'r mynd a dod cyson. |
Ar hyn o bryd, mynd a dod ydy hanes Gwaith Maes hefyd. Erbyn cyhoeddi'r gwerifyn nesaf, bydd gan y Gymdeithas gadeirydd a golygydd gwefan newydd, gan fod Duncan Brown a minnau wedi penderfynnu symyd ymlaen a rhoi'r awenau yn nwylo carfan iau o weithwyr yn y maes.
Bydd y gwaith o ddatblydu'r wefan a golygu'r cynnyrch yn dod dan ofal swyddogion addysg Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch. Teimla'r Gymdeithas gyfan yn fodlon a balch fod y fenter yn bwrw angor mewn hafan mor ddiogel ac yn hyderys y daw cynnydd a llwyddiant mawr yn sgîl y datblygiad hwn.
Bydd Gwaith Maes yn parhau'n fudiad annibynnol, gwirfoddol, yn darparu adnoddau ar gyfer addysg yr amgylchedd a chynaladwyaeth trwy Gymru gyfan ac yn fodd i ysbrydoli cenhedlaeth arall o ieuenctid.

 |
Rhifyn Nesaf
Tachwedd 2006 |
|
Cyfrifoldeb athrawon yw asesu peryglon unrhyw weithgaredd neu ymweliad |
|