
Detholiad ydy’r canlynol o Becyn Addysg
Y Wiwer Goch, gan Gyfeillion Gwiwer Goch Ynys Môn a Menter Môn, sy’n llawn gwybodaeth a gweithgareddau amrywiol a gwreiddiol yn ymwneud â’r wiwer goch. Am fwy o wybodaeth, mynnwch gopi o’r pecyn oddi wrth Menter Môn, Stad Bryn Cefni, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA. |
 |
 |
I drefnu sgwrs neu ymweliad maes, cysylltwch â:
Ffôn y Wiwer: 01248 725755
Mrs. Bethan Wyn Jones: 01248 723755 neu 07713 862792
e-bost: caechwarel@btopenworld.com
Mae Mrs. Jones yn gweithio’n wirfoddol ar hyn o bryd.
Mae’n hynod bwysig fod gan yr ysgol yswiriant digonol ar gyfer teithiau maes a bod digon o athrawon yn bresennol, gan na all Cyfeillion Gwiwerod Ynys Môn fod yn gyfrifol am y plant.

Cynefin y Wiwer Goch
 |
Mae’r wiwer goch yn hoffi byw mewn coedwig. Ei chynefin naturiol yw coedwig llydanddail – hynny ydy, coed sy’n colli eu dail yn y gaeaf, coed fel y dderwen, y gollen, yr onnen a’r ffawydden. Mae hi hefyd yn medru byw mewn coedwig gonifferaidd, cyn belled â bod yno ddigon o foch coed (pine cones) iddi hi eu bwyta. Mae’r wiwer goch yn hoff iawn o binwydden yr Alban. Mae’n cael ei bwyd, y moch coed, gan y goeden ond mae hi hefyd yn gallu adeiladu ei nyth ym mrigau uchaf y binwydden. Mae’r nyth yn cael ei adeiladu o leiaf 3m uwchben y ddaear o frigau a mwsogl. Mi wnewch hefyd ddod ar draws y wiwer goch mewn coed fel sbriwsen Norwy, y llarwydden a’r binwydden gamfrig.
Mae’r gwiwerod yn hoffi byw yn uchel i fyny ym mrigau’r coed am eu bod yn teimlo’n ddiogel yno. Pan mae’r wiwer yn teimlo’n ddigon hyderus a diogel, mi wnaiff hi hefyd neidio, sboncio a rhedeg ar hyd llawr y goedwig. Yn haen uchaf y coed y mae’r wiwer goch yn treulio’r rhan helaeth o’i hoes ac mae’n symud yn ystod oriau’r dydd. Yn ystod yr haf, mae’n gwneud hynny fel arfer yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn. Mae’n cael siesta bach ddechrau’r prynhawn ac fel arfer yn cysgu yn ei nyth neu’n gorffwys mewn hollt yn y canghennau’n uchel i fyny yn y coed. Yn y gaeaf, mae’n codi hwyrach yn y bore ac yn chwilio am fwyd yng nghanol y diwrnod. |
Gweithgaredd A – Cyfnod Allweddol 1
CYNEFIN Y WIWER GOCH

|
Mae gwiwerod coch yn hoffi byw mewn coedwig.
Maen nhw’n hoffi byw yn uchel i fyny ym mrigau’r coed am eu bod yn teimlo’n ddiogel yno.
Mae gwiwerod coch yn byw ar Fynydd Llwydiarth,
sydd yn agos at Bentraeth, Ynys Môn. |
 |
Mae coed yn rhoi cysgod a bwyd i nifer o anifeiliaid.
Fedrwch chi enwi’r anifeiliaid yn y llun isod?

Gweithgaredd B – Cyfnod Allweddol 1
BWYD Y WIWER GOCH
Mae’r wiwer goch wedi cuddio ei bwyd yn y sgwariau hyn.
Fedrwch chi helpu i ddod o hyd i’r bwydydd?
Rhowch linell drwy’r geiriau pan ddewch chi o hyd iddyn nhw.
(Fe all y geiriau fod yn mynd ar draws, i fyny, i lawr neu’n groes gongl.)

Dyma'r bwyd mae'r wiwer wedi ei guddio:
1. mes
2. cnau
3. hadau
4. ffwng
5. blagur
6. moch coed
Gweithgaredd C – Cyfnod Allweddol 2
CYNEFIN Y WIWER GOCH
Peryglon sy’n wynebu’r wiwer goch
Mae’r wiwer goch wedi bod yng Nghymru ers diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n anifail cynhenid yn yr ynysoedd hyn ond yn anffodus, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.
 |
Mae gan y wiwer goch rai gelynion yn ei chynefin gwyllt fel y llwynog, y carlwm, y bele a’r gwalch marth.
Fodd bynnag, y prif reswm fod y wiwer goch wedi diflannu yw dyfodiad y wiwer lwyd. |
 |
Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tua 1876, fe gafodd gwiwerod llwyd eu cludo i Brydain o Ogledd America. Yn anffodus i’r wiwer goch, fe lwyddodd ei chyfnither lwyd i addasu i’w chynefin newydd ac erbyn hyn mae’n ffynnu.
| Gyrrwyd y wiwer goch o’i chynefin naturiol am fod y wiwer lwyd yn byw mewn cynefin tebyg i un y wiwer goch – cynefinoedd fel coedlannau llydanddail a choedwigoedd conifferaidd. Mae’r wiwer lwyd hefyd yn cario firws o’r enw Parapocs; er nad yw’r firws yn niweidio’r wiwer lwyd, mae’n lladd gwiwerod coch. |
 |
Rydym yn ffodus iawn ym Môn fod gennym boblogaeth o wiwerod coch ar ôl o hyd. Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio’r boblogaeth ac wedi darganfod eu bod nhw rwan mewn perygl o ddifodiant, er eu bod wedi bod yma ers canrifoedd. Cafodd Dr. Craig Shuttleworth ei benodi i astudio gwiwerod coch Mynydd Llwydiarth ac mae wedi bod yn gwneud hyn yn ofalus dros y blynyddoedd diwethaf. Môn yn hafan i’r wiwer goch. Mae hefyd wedi bod yn maglu gwiwerod llwyd a’u difa. Er mwyn rhoi cyfle i’r gwiwerod coch oroesi, mae’n rhaid cael gwared o’r rhai llwyd er mwyn caniatáu i’r rhai coch ailgytrefu’r (symud yn ôl i fyw mewn) cynefinoedd oedd yn gartref iddynt gynt ac unwaith eto wneud
Gweithgaredd CH – Cyfnod Allweddol 1
PERYGLION SY'N WYNEBU'R WIWER GOCH
Ar ôl darllen y darn neu wrando ar rywun yn ei ddarllen i chi, defnyddiwch y geiriau isod i lenwi’r bylchau:
llwyd |
llwynog |
brin |
coedwigoedd |
goch |
|
|
|
|
|
coed |
America |
goch |
lwyd |
afiechyd |
Y wiwer ____________ yw gwiwer frodorol Prydain.
Mae yna wiwer arall yn byw ym Mhrydain sef y wiwer ____________.
Cafodd y wiwer lwyd ei chyflwyno (ei rhoi i fyw) i barciau ond cyn pen dim
roedd y gwiwerod ____________ wedi lledaenu trwy’r wlad.
Mae’r wiwer lwyd yn dod o ____________.
Mae hon yn cario ____________ sydd yn lladd y wiwer goch.
Mae gwiwerod coch bellach yn ____________ yng Nghymru.
Mae gan y wiwer goch nifer o elynion yn cynnwys y ____________, y
carlwm a bele’r coed.
Mewn ____________ mae gwiwerod coch yn byw.
Mae nifer fawr o goed yn cael eu torri i lawr bob blwyddyn felly mae llai o
lefydd i’r gwiwerod fyw.
Wrth blannu ____________ mae’n bosib helpu’r wiwer ____________
ac anifeiliaid eraill sy’n byw mewn coedydd.
Gweithgaredd D - Cyfnod Allweddol 2
PERYGLON SY'N WYNEBU'R WIWER GOCH
 |
Darllenwch y testun blaenorol ac yna atebwch
Cywir neu Anghywir i’r gosodiadau isod trwy
roi tic yn y blwch priodol ar gyfer pob un. |
ATEBION
Gweithgaredd A
Gan ddilyn efo bysedd y cloc:
ffwlbart |
gwiwer goch |
draenog |
llygoden |
aderyn |
pryf copyn |
Gweithgaredd B

Gweithgaredd C
1. Coedwigoedd llydanddail
2. Coed cyll, derw a ffawydd
3. Pinwydd yr Alban
4. Brigau uchaf y coed
5. Brigau a mwsogl
6. Yng nghanol y dydd
7. Cysgu
8. O leiaf 3m uwchben lefel y ddaear
Gweithgaredd CH
Y wiwer goch yw gwiwer frodorol Prydain. Mae yna wiwer arall yn byw ym Mhrydain sef y wiwer lwyd. Cafodd y wiwer lwyd ei chyflwyno (ei rhoi i fyw) i barciau ond cyn pen dim roedd y gwiwerod llwyd wedi lledaenu trwy’r wlad.
Mae’r wiwer lwyd yn dod o America. Mae hon yn cario afiechyd sydd yn lladd y wiwer goch. Mae’r wiwer goch bellach yn brin yng Nghymru. Mae gan y wiwer goch nifer o elynion yn cynnwys y llwynog, y carlwm a bele’r coed.
Mewn coedwigoedd mae gwiwerod coch yn byw. Mae nifer fawr o goed yn cael eu torri i lawr bob blwyddyn felly mae llai o lefydd i’r gwiwerod fyw. Wrth blannu coed mae’n bosib helpu’r wiwer goch ac anifeiliaid eraill sy’n byw mewn coedydd.
Gweithgaredd D
1. Anghywir
2. Anghywir
3. Cywir
4. Anghywir
5. Cywir
6. Cywir
7. Anghywir
8. Anghywir
9. Cywir
10. Cywir
|