RHIFYN NEWYDD 33  
     

 

 

Gwe'r We

Gobeithio’n wir i chi fwynhau eich taith gerdded a dysgu mwy am dai eich ardal.

Mae pob tŷ yn wahanol mewn rhywffordd neu’i gilydd – rhai wedi cael ffenestri dwbl newydd mewn rhes o dai teras ac eraill heb; un tŷ wedi chwipio a’r gweddill yn parhau i fod o frics.

Sut dŷ fyddech chi yn hoffi byw ynddo?
Oes yna un o’r rhain yn eich taro fel rhai da?

tai
ty newydd

chart 1
chart 1a


chart 1c

Meddyliwch am leoli pob ystafell fel y dymunwch yn awr ar gyfer tŷ unllawr, ddeulawr neu fflat.

blue print

chart2a

Dyma’r cam olaf.
Rhaid i bob pensaer gwerth ei halen ystyried y deunyddiau y byddent yn eu defnyddio i adeiladu’r tŷ yn ofalus, a heddiw byddent yn ceisio eu gwneud mor amgylcheddol gyfeillgar a phosibl.
Mae waliau trwchus yn gallu bod yn gostus, ond yn eich cadw yn gynnes yn y gaeaf, felly bydd eich bil trydan/nwy yn is ac felly yn arbed arian i chi. Gall teils ar y tô fod yn rhad ac yn ysgafn, ond mae’n bosib y bydd angen i chi eu hail-osod mewn tua 50 mlynedd, tra fod llechen yn parhau am dros gan mlynedd. Wrth gwrs gallwch orchuddio’r tŷ gyda tywarch i gadw’r gwres i fewn... ond bydd angen i chi dorri’r gwair yn gyson!! Beth am gasglu dŵr glaw o’r gwter a’i ddefnyddio i fflyshio toiledau eich tŷ, neu gael tyrbein gwynt bychain ar ei ochr i gynhyrchu egni i chi.

chart2b

 
 
Gwaith Maes Logo
 
 
Gwaith Maes :: Rhifyn 33