RHIFYN NEWYDD 33  
     

 

 

teitl

Cychwynnodd fy niddordeb mewn cychwyn grŵp bywyd gwyllt ‘Gwylio’ (Watch) pan oeddwn yn gwneud gwaith cwrs yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Roedd yn rhaid i mi greu cyflwyniad ar ran Ymddiriedolaeth Natur.
Wrth ymchwilio sylweddolais fod adran ieuenctid gan yr Ymddiriedolaeth, sef ‘Gwylio’r Gwyllt’ (Wildlife Watch). Mae gwefan yr Ymddiriedolaeth Natur yn rhoi manylion am grwpiau ‘Gwylio’ ym mhob rhan o’r wlad, ac wrth chwilio yn ddygn am un ger Aberystwyth, sylweddolais nad oedd un yn bodoli. Felly, penderfynais gychwyn un fy hun.

Y peth anoddaf wrth gychwyn oedd ffeindio rhywle i gynnal y clwb, ac roeddwn ddigon lwcus yn y diwedd i ffeindio neuadd Ysgol a phrifathro cefnogol.

Wedyn roedd angen hysbysebu’r grŵp er mwyn cael aelodau a gydag ychydig o bosteri a chymorth athrawon, yn sydyn roedd gen i ormod o blant wedi rhoi eu henwau i lawr.

Wrth gwrs, fedr un person ddim gwneud pob peth ei hun, ac mae’n bwysig cael eraill i mewn i helpu, boed yn gyfeillion yr Ysgol, rhieni sydd gyda diddordeb mewn natur neu rai sydd yn gweithio yn y maes. I gymhlethu pethau, rhaid i un person gael Tystysgrif Cymorth Cyntaf, a rhaid i bawb gael "CRB check".

Er hyn i gyd, mae’r clwb wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus am dros flwyddyn yn awr gyda 17 o blant blwyddyn 3 a 4 yn dod yn gyson.

Rydym yn cyfarfod ar ôl Ysgol rhwng 3.30 a 5.50 ar ddydd Mercher, ac ar Sul olaf y mis rydym yn mynd ar daith. Heblaw am chwarae gemau amgylcheddol a gwneud gweithgareddau tu fewn rydym hefyd wedi:

Gwneud blychau nythu

Bod ar safari glan y môr

Bod ar safari beiciau Glanhau’r glannau
Creu gardd wyllt Dysgu am grefftau’r goedwig

madfall

Dysgu am fywyd madfall allan yn y maes

Mae yna grantiau ar gael i gynorthwyo, ac mae yna swyddfeydd Ymddiriedolaeth Natur o amgylch Cymru all hefyd eich cynorthwyo.
Cawsom ni grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a
chodi pres ein hunain gyda bore coffi, taith noddedig a chwis tafarn!!
(i oedolion yn unig wrth gwrs!)

Os hoffech fwy o fanylion am grŵp ‘Gwylio’ yn eich ardal, cewch y manylion o wefan Ymddiriedolaeth Natur, neu gallwch gysylltu â mi, Helen am fanylion o Geredigion. Ebost: helen@wildlifewatchceredigion.co.uk Ffôn: 07999575836

 

 
 
Gwaith Maes Logo
 
 
Gwaith Maes :: Rhifyn 33