![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Cadwyn Fwyd yn ffordd syml o ddangos ‘pwy sy’n bwyta pwy’ a sut mae egni yn cael ei basio o blanhigion i gigyswyr.
Hawlfraint Femke Van Gent o CD-Rom addysgol “Mae'r Llanw ar Dra”i, gan Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru, fydd allan yn y flwyddyn nesaf Ar dir, dim ots gyda pa blanhigyn yr ydych yn cychwyn, gallwch ddilyn y gadwyn yn ôl i’r pridd, planhigion a’r haul. Gyda creaduriaid y môr, mae popeth bron yn arwain yn ôl i ddŵr y môr, planhigion sydd yn byw yn y môr a’r haul. Er gall y môr edrych yn glir, mae’n llawn bywyd, fel mae pridd yn llawn bywyd. Mae’r môr yn llawn o filiynau o ddarnau o fwyd a elwir yn Plancton. Beth ydi cynnwys CAWL PLANCTON?
CAWL PLANCTON |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Zoo |
Phyto plancton |
Llymrien |
Môr- wennol |
Gwylan |
Tydi natur ddim mor syml a hyn. Ym myd natur, byddai sawl peth yn bwyta’r plancton, sawl anifail yn bwyta’r llymrien ac yn y blaen.
Pa anifeiliaid eraill fyddai yn bwyta llymrien?

Ateb Yn y dwr o amgylch Prydain, mae o leiaf 20 creadur arall yn
bwta llymrien
Adar - Gwennol y môr (môr wennol), Môr wennol y gogledd, Môr wennol bigddu, Môr wennol wridog, Môr wennol fach, Gwylan goesddu, Gwylog, Llurs, Pal, Mulfran werdd. Pysgod - Macrell, Cod, Hadog, Gwyniad y Môr, Celogiaid, Grey Gurnard. Mammaliaid - Llamhidydd Harbwr (porpoise), Morfil Minke, Morloi llwyd, Pobl* Môr wennol gyda llymrien > |
![]() |
*Er nad ydi pobl yn dueddol o fwyta llymrien, maent yn pysgota amdanynt. Maent yn cael eu defnyddio mewn bwyd cwn ac fel gwrtaith!!!
Er mwyn cael gwell syniad o beth sydd yn bwyta beth, gallwn ddefnyddio’r wybodaeth i greu Gwe fwyd. Gall gwe fwyd fod yn gymhleth iawn, gan fod cymaint o anifeiliaid yn gallu cael eu bwyta gan anifeiliaid eraill.
Dyma’r math o wê fwyd a welir yn Cemlyn, Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar arfordir gogleddol Ynys Môn. Mae yn fan gwych i edrych ar Fôr-wenoliaid ac astudio’r arfordir. Am fwy o wybodaeth am Cemlyn, neu i drefnu ymweliad a’r safle dilynwch y cyswllt yma |

Cynefin Cemlyn ...
| 1. | Fedrwch chi weld cadwyn fwyd yn y wê fyddai’n digwydd yn y lagŵn? |
| 2. | Fedrwch chi weld unrhyw gadwyni bwyd o fewn y wê fyddai’n digwydd ar y glannau carregog? |
| 3. | Fedrwch chi weld unrhyw gadwyn fwyd o fewn y wê fyddai’n digwydd yn y môr? |
| 4. | Fedrwch chi weld unrhyw gadwyni bwyd sydd yn y wê fwyd fyddai’n cysylltu’r lagŵn gyda’r arfordir carregog? |
| 5. | Fedrwch chi weld cadwyn fwyd yn y wê fwyd fyddi’n cysylltu’r lagŵn gyda’r môr agored? |
| 6. | Fedrwch chi weld cadwyn fwyd yn y wê fwyd fyddi’n cysylltu’r arfordir carregog gyda’r môr agored? |
Atebion |
|
| 1. | Haul - Chwyn - Hyrddyn – Creyr |
| 2. | Haul - plancton planhigyn – cregyn gleision – seren fôr – gwylan gefnddu fwyaf. neu haul – gwymon – llygaid maharen – cragen foch weflog – seren fôr – gwylan gefnddu fwyaf. neu Haul – plancton planhigyn (phytoplancton)– cregyn gleision – pioden fôr – hebog tramor |
| 3. | Haul – plancton planhigyn – plancton anifail – draenogiaid neu Plancton planhigyn – llymrien – macrell – hugan neu Haul – plancton planhigyn – plancton anifail – llymrien – morloi neu Haul – plancton planhigyn – plancton anifail – llymrien – macrell – llamhidydd |
| 4. | haul – chwyn – hyrddyn – creyr |
| 5. | haul - chwyn – isopod – gobi - llymrien – gwylan - gefnddu fwyaf |
| 6. | haul – plancton planhigyn – cregyn gleision – seren fôr – gwylan gefnddu fwyaf. |

Bydd CD“Mae'r Llanw a'r Drai!” (The Tide is Going Out!) yn dod allan erbyn haf 2007. Adnodd addysgol dwyieithog gydag thema forol wedi anelu at ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 ydw. Mae 4 rhan Yr Haul, Anifeiliad a'u Cynefin, Sut mae pobl yn Ffitio i Fewn a Bywyd Morol i’r CD gyda cyfanswm o 16 o storiau megis Huw'r Heulgi'n Bwyta'i Frecwast, Rhaid i Bawb Gael Haul, Y Palod Prysur, Pryd Blasus o Wymon a I Ble'r Aeth y Mor. Mae gan pob un thema forol.
Y nod yw y bydd yr athro/athrawes/disgybl yn gallu darllen y stori sydd yn cael ei rhoi ar y bwrdd gwyn neu gellir gwneud copi papur ohono. Mae'r geiriau yn dod i fyny ar y sgrin a llun hefo pob darn o'r stori. Gydag pob stori mae tudalennau athrawon, ffeil ffeithiau i athrawon a ffeil ffeithiau i blant am y rhywogaethau yn y stori, a gweithgareddau megis taflenni gwaith a syniadau yn seiliedig ar thema'r stori.
Am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Nia Jones, Ymwybyddiaeth Forol Gogledd Cymru. 376 Stryd Fawr. Bangor. Gwynedd. LL57 1YE. Ffôn: (01248) 355030