RHIFYN NEWYDD 33  
     

 

 

Gwe'r We

Fuoch chi allan am dro yn y nos erioed?
Pryd? Ble?
Beth welsoch chi? Glywsoch chi rywbeth diddorol?
Naddo? Os felly, beth fyddech chi’n disgwyl ei weld neu ei glywed – ar wahân i’r lleuad a’r sêr?

nos Gyda lampau da a goleuadau ymhobman, dydy’r nos fawr o anhawster i ni heddiw, ond roedd pethau’n wahanol gan mlynedd a mwy yn ôl.
Os cewch chi gyfle i wersylla allan yng nghefn gwlad neu fynd am dro ymhell o’r dref, fe fyddwch chi’n dechrau gweld y fath wahaniaeth sydd rhwng nos go iawn a dydd. Dyna pam roedd pobl ers talwm yn arfer trefnu eu diwrnod neu daith er mwyn “cyrraedd adre cyn nos.”

 

Beth ydych chi’n ei hoffi am olau dydd?
A beth am dywyllwch y nos?
Oes rhywbeth dydych chi ddim yn ei hoffi?

 

Gall pobl ddewis mynd allan yn ystod oriau tywyllwch neu gefn dydd golau, ond does gan lawer o greaduriaid fawr o ddewis – maen nhw wedi esblygu i hel bwyd ac i gymdeithasu yn y nos
NEU yn ystod y dydd.

Pam hynny? Pa fantais sydd mewn byw yng ngolau’r haul neu dan gysgodion y nos?

dydd

 

gwaith maes i chi

 

 

nos bach
ENW ................................................................
   
Dosbarth ................... Dyddiad ......................
dydd bach

 

chart

 

 
 
Gwaith Maes Logo
 
 
Gwaith Maes :: Rhifyn 33