blue line

rhifyn newydd: 33

golygyddol Rhifyn 33
Gwaith Maes
cychwyn Cychwyn clwb bywyd gwyllt
Helen Pye
nos a dydd Nos a dydd
Meira Shakespear
Gwe'r we Gwe'r we
Gwaith Maes
adeiladau rhan 1 Adeiladau yn ei hamgylchedd - Rhan 1
Angharad Harris
adeiladau rhan 2 Adeiladau yn ei hamgylchedd - Rhan 2
Angharad Harris

 

 

 

 


 
  rhifyn 33

Croeso i we - rifyn diweddaraf Cymdeithas Gwaith Maes, y cyntaf
i ni fel Gwasanaeth Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
ei olygu. Gobeithiwn y byddwch yn ei fwynhau cymaint â’r
gwe - rifynnau blaenorol.

plant yn y dail

Er gwaetha’r ffaith bod y tywydd yn newid dros gyfnod y gaeaf, mae yna dal ddigon y gallwch ei wneud ble mae gwaith maes yn y cwestiwn.

Gallwch arsylwi ar y newid yn yr hinsawdd a chadw cofnod o’r adar sydd yn dod i fwyta oddi ar fwydwr yr Ysgol neu’r un adra; nodi beth y maent yn ei fwyta a nodi pa adar sydd yn hoff o fwyta o’r bwydwr, y bwrdd adar a pha rai o’r llawr. Gallwch chwilio mewn cloddiau i ddarganfod hen nythod gan fod y tymor nythu wedi dod i ben (cofiwch beidio gwneud hyn yn y gwanwyn gan ei fod yn anghyfreithlon!) a defnyddio erthygl o we- rifyn 29 gan y diweddar Ted Breeze Jones i’ch helpu i’w dadansoddi.

   

Ydych chi wedi meddwl beth mae adar yn fwyta yn yr haf, neu beth mae adar y môr yn fwyta?

Gallwn eich sicrhau mai dim bara a sbwriel ydi bwyd naturiol yr wylan, ond pysgod y môr, ac mae’r wylan gefnddu fwyaf ddigon mawr i fwyta adar llai.

deryn

Gallwch ddysgu mwy am gadwyni bwyd y môr a dysgu am warchodfa natur arfordirol Cemlyn yn erthygl Nia Haf Jones a Sam Bryan - Gwe’r We

Efallai yr hoffech rywbeth i’w wneud ar ôl yr Ysgol? Beth am ddarllen yr erthygl am sefydlu clwb bywyd gwyllt fel y gwnaeth Helen Pye. Efallai y gallwch feddwl am rieni neu ffrindiau allai eich helpu, ac mae yna restr gysylltu ynghlwm os byddwch angen mwy o gymorth.

Nid yn unig mae’n newid tymor, ond mae newidiadau ar y gweill ar gopa’r Wyddfa hefyd. Fydd yr olygfa ddim yr un fath eto gan fod yr adeilad a welwyd yn y gwe - rifyn diwethaf wedi ei ddymchwel. Bydd yr adeilad newydd yn ei le erbyn 2008. Bydd yr adeilad newydd yn un llawer iawn mwy amgylcheddol gyfeillgar, wedi ei wneud o ddeunydd lleol yn bennaf, ac yn defnyddio ‘dŵr llwyd’ (dŵr glaw) yn y toiledau. ‘Sgwn i sut fath o adeiladau sydd o amgylch eich Ysgol chi? Rhai o garreg leol a llechen, neu rai mwy modern o frics a theils?
Beth am ddefnyddio’r erthygl am Adeiladau i ddarganfod mwy, a threfnu taith? Os byddwch yn creu llun o adeilad ecogyfeillgar neu os oes adeilad eco gyfeillgar wedi ei adeiladu ger eich Ysgol chi beth am ei anfon i mewn atom fel y gallwn ei arddangos yn y rhifyn nesaf.

Rydym wedi cynnwys cysylltiadau i wefannau all eich helpu yn eich gwaith yn y rhifyn hwn, a rhestr o bobl all ddod i mewn i’r Ysgol i sgwrsio am yr amgylchedd a natur. Gobeithiwn y bydd hyn o gymorth i chi. Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw sylwadau i’w gwneud.

llofnod Angharad

 

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS © 2007

Beth hoffech chi weld ar wefan Gwaith Maes yn y dyfodol? Cliciwch yma i gysylltu