![]() |
||||
|
Ein neges yw bod y Parc yn amgylchedd deinamig sydd yn newid yn gyson. Rydym am ddathlu’r dynodiad trwy feithrin trafodaeth, ac ystyried beth mae’r dynodiad wedi ei olygu dros yr hanner canrif i gymunedau a’r tirwedd. Bydd hyn yn gymorth i godi proffil o’r sialensau fu yn wynebu’r Parc Cenedlaethol yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Bydd y Gwasanaeth Addysg yn gweithio gydag ysgolion lleol yn eu canolfannau. Cynhaliwyd cyrsiau am ddim i ysgolion ym mis Mawrth ym Mharc Gwledig Craig-y-nos, a bydd gweithgaredd tebyg yn cael eu cynnal yn ein Canolfan Ymwelwyr ger Libanus rhwng y 18fed a’r 22ain o Fehefin ac yng Nghanolfan Astudio’r Parc Cenedlaethol ger Dan y Wenallt rhwng y 19eg a’r 23ain o Dachwedd. Pwrpas y cyrsiau fydd i godi ymwybyddiaeth o’r dynodiad, ac i ysgogi meddwl am y dyfodol. Bydd pob ysgol yn mwynhau profiad o’r Parc Cenedlaethol wrth astudio nifer o nodweddion naturiol a dynol, a thrafod effaith ffermio, twristiaeth, mwyngloddio, coedwigaeth a phobl gynnar ar y tir. Yn y prynhawn bydd disgyblion yn gwneud gweithgaredd ac yn gweithio mewn timau i feddwl am gynaladwyaeth y Parc Cenedlaethol a’i ddyfodol. Bydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn cynnal Picnic yn y Parc ar y 6ed o Fehefin yng nghanolfan ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, ac yn ystod adloniant y nos bydd tair coelcerth yn cael eu cynnau ar fynyddoedd yn y Dwyrain, Canol a Gorllewin. Os hoffech fwy o fanylion am Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yna mae llawer o ddeunydd ar ein gwefan www.breconbeacons.org, neu gallwch gysylltu gyda’r Gwasanaeth Addysg ar 01874 620445
|
|||
Gwaith Maes :: Rhifyn 34 |
||||