![]() |
||
|
Efallai i chi weld yn rhifyn 32 o Gwaith Maes erthygl am adeilad copa’r Wyddfa ble gofynwyd i chi ddylunio eich adeilad eich hun. Mae’r llun yma yn dangos hen adeilad y copa adeiladwyd yn 1935 i gynllun
Roedd yn adeilad unigryw, yn agos i gopa mynydd ac yn cynnwys gorsaf drên. Gyda’r tywydd eithafol a geir ar yr uchder yma mae adeiladu unrhyw beth yn gosod sialens na cheir mohoni yn unman arall ym Mhrydain. Mae’r glawiad yn 200 modfedd (508cm) y flwyddyn a’r tymheredd yn amrywio o hyd at 30°C yn yr haf i -20°C yn y gaeaf. Gall cyflymder y gwynt godi hyd at 150 m.y.a., a’r adeg honno bydd tymheredd yr arwyneb yn gostwng 30°C ymhellach. Gall fod haenau o farrug, rhew ac eira dros yr adeilad o fis Tachwedd tan fis Ebrill. Bellach, mae’r adeilad wedi mynd. Cafodd ei ddychwel yn dilyn seremoni ar y copa ar y 12fed o Fedi 2006, ac erbyn Nadolig 2006, dim ond craith oedd ar ôl. Yn dilyn cyfnod oer y gaeaf, ail ddechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Mawrth. Dylai’r adeilad newydd, Hafod Eryri fod yn barod erbyn haf 2008.
Yr hen adeilad ar yr olygfa © APCE
Yr olygfa heb yr adeilad © Eryri Bywiol / Snowdonia-Active Os hoffech weld yr adeilad yn datblygu, yna gallwch gadw golwg ar wefan Eryri Bywiol trwy ddilyn y cyswllt yma, neu gadw golwg ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri trwy’r cyswllt yma.
|
|
Gwaith Maes :: Rhifyn 34 |
||