RHIFYN NEWYDD 34  
     

 

 

enwau llefydd

Ydych chi eisiau datblygu geirfa Cymraeg disgyblion ail-iaith?
Ydych chi wedi ystyried astudio’r ardal leol fel rhan o weithgareddau’r dosbarth, a defnyddio cyfleoedd i ddatblygu eu geirfa ddaearyddol? Isod mae enghreifftiau o sut y gall athrawon blethu eu gwersi ail-iaith â’r cwricwlwm daearyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hefyd yn addas ar gyfer disgyblion iaith gyntaf.

Gwaith maes – astudio’r ardal leol
Pan ydych allan yn chwilio ac yn sylwi ar nodweddion daearyddol yn eich ardal leol, beth am gael y disgyblion i dynnu llun bras neu ffotograff o’r nodweddion nad ydynt yn gwybod y gair Cymraeg amdano?

Gall hyn gynnwys adnabod nodweddion naturiol a rhai dynol.

eglwys sant cynwyl

Eglwys Sant Cynwyl, Cynwyl Gaeo
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)

Yn dibynnu ar allu ac oedran y plant, gall y nodweddion gynnwys:

  • mathau gwahanol o adeiladau e.e. eglwys, ysbyty, rhes o siopau
  • tai gwahanol e.e. byngalo, tŷ teras (gweler rhifyn 33 am fwy o syniadau)
  • termau daearyddol yn disgrifio’r tirwedd e.e. afon, clogwyn
  • defnydd tir e.e. caeau / tir amaethyddol, stad o dai, stad ddiwydiannol

Os nad oes modd cynnwys gwaith maes, gall y disgyblion dynnu llun neu ysgrifennu rhestr (yn Saesneg) o’r cof neu wrth edrych ar luniau o’r ardal.

Yn ôl yn y dosbarth, gall y disgyblion ddefnyddio geiriaduron i ddarganfod yr eirfa neu’r term Cymraeg am y nodweddion yn eu lluniau. Yna gellir casglu’r wybodaeth ynghyd a’i threfnu i greu geiriadur daearyddiaeth – yn ddelfrydol gyda lle i ehangu wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

Gweithgareddau ychwanegol

  • Creu ‘cardiau snap’ i’r disgyblion gyfateb y darlun gyda’r eirfa/term cywir, neu gall y disgyblion greu croesair neu chwilair i’w gilydd.
  • Gall disgyblion hŷn nodi symbolau sydd yn cael eu defnyddio ar fapiau i gynrychioli’r nodweddion gwahanol. Er enghraifft, pa symbol sy’n cael ei ddefnyddio ar fap OS i nodi eglwys neu drac rheilffordd?

Defnyddio Awyrluniau

Ffordd hwyliog o ymarfer defnyddio’r eirfa newydd yw drwy labelu awyrlun o’r ardal.

Gall y disgyblion greu labeli ar gardiau ar gyfer labelu awyrlun wedi ei chwyddo’n fawr neu gallant labelu llun bach yr un gyda phensil/beiro.

Bryngaer Pen Dinas, Aberystwyth

Bryngaer Pen Dinas, Aberystwyth
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Yn dibynnu ar eich ardal leol, gall y labeli gynnwys nodweddion lleol, megis ffyrdd, rheilffyrdd, chwarel a mathau gwahanol o adeiladau.

Map OS Gellir ehangu’r gweithgaredd gyda disgyblion hŷn drwy gymharu’r awyrlun gyda map OS o’r un ardal.

1. Pa wybodaeth ychwanegol y gallwn ei gael o’r awyrlun na allwn ei ganfod o’r map? Enghraifft o hyn fyddai gallu canfod amser y dydd neu’r tymor.

2. Beth am y map – oes gwybodaeth ychwanegol ar gael yma?

Coflein © Hawlfraint y Goron: CBHC

Gellir defnyddio’r awyrlun, yn enwedig os yw’n ddarlun fertigol, fel sylfaen i’r disgyblion lunio eu llinfap eu hunain o’r ardal. Yn dibynnu ar oedran a gallu’r disgybl, mae’n bosibl llunio’r map drwy ddefnyddio amlinelliadau wedi eu labelu neu ddefnyddio symbolau safonol.

Mae’r erthygl uchod yn seiliedig ar weithgareddau datblygu iaith a ddefnyddiwyd yn ystod ymweliad ysgol â’r Comisiwn Brenhinol.

I drefnu ymweliad neu i archebu awyrluniau o Gymru cysylltwch â:
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.
Plas Crug. Aberystwyth. SY23 1NJ
Ffôn: 01970 621200 Gwefan: www.cbhc.gov.uk

 

 
 
Gwaith Maes Logo
 
 
Gwaith Maes :: Rhifyn 34