![]() |
||||||||||||
|
Ydych chi wedi ystyried erioed sut y buasech chi’n teimlo petae neb erioed wedi rhoi enw i chi? Duncan Brown yw fy enw i, ac mae’r enw hwnnw, pa mor hyll neu hyfryd ydyw, yn rhan o beth sydd yn fy ngwneud i yn “Fi”. Mae pawb cystal a’i enw! Heb fy enw, ni faswn yn bod....efallai Mae fy enw hefyd yn dweud wrth y byd i bwy dwi’n perthyn. Dwy ganrif yn ôl, mi ddatblygodd Swedwr o’r enw Linneaus system o enwi anifeiliaid a phlanhigion yn yr un ffordd yn union - system dau enw neu “deu-enwol”. Ond mi ddefnyddiodd Linnaeus ieithoedd Lladin a Groeg (erbyn hynny, ieithoedd pawb a ieithoedd neb), fel y byddai ei enwau yn dderbyniol i “bawb” – wel, pawb yn Ewrop beth bynnag! Cafodd y titw glas yr enw Parus caeurulus a’r titw mawr yr enw Parus major. Y rhan o’r enw sydd yn cyfleu “titw” yw Parus (pob amser gyda llythyren fawr) a’r rhan sydd yn cyfleu pa fath o ditw yw’r ail enw caerulus (sydd yn golygu glas) ac major (sydd yn golygu mawr). Mae hyn yn debyg iawn i’n system ni o enwi ein gilydd, ond yn groes – mi fuasai Linneaus wedi fy ngalw i yn Brown duncan! Cafodd system ddeu-enwol Linnaeus ddylanwad mawr ac mi gafodd ei gopio gan ieithoedd eraill. Dyna i chi’r blue tit a’r great tit er enghraifft, a phatrwm tebyg yn y Gymraeg hefyd fel y gwelson ni eisoes. Mae pobl wedi rhoi enwau ar y planhigion a’r anifeiliaid yn y byd o’u cwmpas erioed. Ond beth wnaeth Linnaeus oedd ceisio rhoi UN enw ar bob math (neu rhywogaeth) o anifail neu blanhigyn fel y byddai pawb yn gwybod at beth yn union oedd person yn cyfeirio ato beth bynnag ei iaith a lle bynnag roedd o’n byw. Roedd yna enwau Cymraeg a Saesneg ar lawer iawn o rywogaethau ymhell cyn oes Linnaeus wrth gwrs, ond roedd yr enwau yma yn amrywio o le i le. Cadno yn y de, llwynog yn y gogledd, iorwg yn y de, eiddew yn y gogledd, i roi dwy enghraifft amlwg. Ac ni chafodd enwau Cymraeg eu rhoi ar lawer o rywogaethau o gwbl os nad oeddynt o werth, neu yn broblem i rywun. Os nad oes gan rhywbeth enw, mewn ffordd - nid yw’n bod o gwbl bron. Ymysg y creaduriaid di-enw (yn y Gymraeg) yw’r gwyfynod. Ydyn nhw yn bod i chi? Y Gwyfynod yn gweld golau dydd yn y Gymraeg. Faint o fathau o wyfynod ydych chi’n gwybod amdanynt? Chwech? Dau? Dim? Ydych chi’n gwybod BETH ydi gwyfyn? Faint o fathau o adar ydych chi’n eu hadnabod? Gallwch enwi chwech heb feddwl dwi’n siwr – oherwydd mae ganddynt enwau. Robin goch, creyr glas, pioden...ac yn y blaen. Ond mae ‘na lawer mwy o fathau o wyfynod nag o adar. Mae’n hen bryd felly cael enwau Cymraeg ar y gwyfynod. Wedyn bydd y grwp diddorol a hardd hwn yn cael mwy o sylw...a mwy o chwarae teg. Dros y tair blynedd diwethaf buom yn llunio rhestr o enwau’r 1000 o wyfynod sydd i’w cael ym Mhrydain.
Aethon ni ati i’w henwi nhw gan ddefnyddio’r dull deu-enwol, fel hyn:
Gwalchwyfynod yw’r ddau wyfyn yn llun 1 a 2. Mae nhw’n fawr a golwg bygythiol arnynt, fel y gweilch ym myd yr adar – dyna pam GWALCH-wyfynod (hawk-moths yn Saesneg). Mae’r ddau fath yn perthyn i’r “teulu” hwn, ond nid yr un math ydi’r ddau. Felly, mae’n rhaid cael enw arall ar bob un sydd yn disgrifio’r hyn sydd yn eu gwneud yn wahanol. Mae un yn byw ar goed poplys – felly gwalch-wyfyn y poplys ydi hwnnw. Mae’r llall yn arddangos y “llygaid” mawr mwyaf trawiadol gwelsoch chi erioed – y gwalch-wyfyn llygeidiog yw hwnnw. A dyna chi – dau wyfyn wedi gweld golau dydd yn barod!
Beth am chwilio ar y we am enwau Lladin Linnaeus ar rhain, a gweld pa mor addas yw eu henwau Cymraeg. Dyma’r enwau Lladin yn eu trefn: Notodonta dromedarius, Notodonta tritophus a Notodonta torva. Nid yw ambell wyfyn arbennig yn eistedd yn daclus mewn grwp o rai eraill tebyg iddo. Mae ambell un yn sefyll allan fel creadur unigryw ac ar wahan (er na fyddai Linneaus fyth wedi cydnabod hynny wrth ddilyn ei drefn hollol systematig o’i enwi).
|
|||||||||||
Gwaith Maes :: Rhifyn 34 |
||||||||||||