![]() |
||||
|
Nod Gwobr John Muir yw annog pobl o bob oed a chefndiroedd i ddarganfod, mwynhau a gwarchod ardaloedd gwyllt y blaned, trwy gynllun strwythurol sydd hefyd yn hyblyg. Fe’i lansiwyd yn 1997 gan Ymddiriedolaeth John Muir fel cynllun addysgol i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch ag achub a gwarchod ardaloedd gwyllt ym Mhrydain. Hanfod gwobr John Muir yn y bôn yw:
Ceir tair lefel i wobr John Muir: Yn ystod Mis Chwefror eleni ymwelodd disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Maesgarmon, Yr Wyddgrug â Gwersyll yr Urdd Glanllyn i gymryd rhan yn lefel rhagarweiniol gwobr John Muir. Bu’r disgyblion yn darganfod a dysgu am yr ardal leol trwy deithio’i o’i hamgylch mewn canŵ ar Lyn Tegid a thrwy daith gerdded ac archwilio nodweddion naturiol a gwyllt yr ardal trwy gyfres o gemau amgylcheddol yng nghoedwig y Gwersyll. Am ddeuddydd cafodd warden Llyn Tegid, Arwel Morris gymorth y grŵp i gasglu sbwriel a chlirio deunydd organig o faes carafannau lleol. Yn arferol byddai’r gwaith yn cymryd sawl wythnos i wardeiniaid y Parc Cenedlaethol felly roedd 80 pâr o ddwylo ychwanegol yn help garw.
Cafwyd cystadleuaeth ar y nos Fawrth gyda’r disgyblion yn derbyn bag o sbwriel er mwyn creu a chynllunio rhywbeth defnyddiol i’r Gwersyll.
Yn ogystal bu’n fodd i argyhoeddi’r gwahanol grwpiau o’r pwysigrwydd o ailgylchu ac ail ddefnyddio deunyddiau yn hytrach na’u taflu i’r bin.
Bu wythnos John Muir yn hynod o lwyddiannus gyda’r disgyblion yn cael cyfle i gofnodi’r gwahanol elfennau o’r cwrs mewn ysgrifen, lluniau a barddoniaeth. Gobeithio y byddant yn dychwelyd yn ôl i’r ysgol a’u cartrefi i rannu eu profiadau ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros warchod a diogelu ardal wyllt yn eu milltir sgwâr.
|
|||
Gwaith Maes :: Rhifyn 34 |
||||