golygyddol Rhifyn 34
Gwaith Maes
copa'r wyddfa Copa'r Wyddfa
Gwasanaeth Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
golygyddol Bannau Brycheiniog
Swyddogion Addysg
Bannau Brycheiniog
John Muir John Muir
Dafydd Huw
Gwersyll yr Urdd, Glanllyn.
trap tatw Trap Tatw
Ian Keith Jones
golygyddol Enwau Llefydd
Angharad Williams
golygyddol Gwyfynod
Duncan Brown
chwilair Chwilair
Meira Shakespear

 

 


rhifyn 33

Mae’r Cennin Pedr yn eu blodau, coed yn dangos eu blagur, adar o
bob rhywogaeth wrthi’n brysur yn casglu deunydd nythu, ac mae Gwalch y Pysgod wedi dychwelyd unwaith eto i aber yr Afon Glaslyn yma yn Eryri i godi teulu ... arwyddion pendant fod y Gwanwyn wedi dod unwaith eto a’i bod yn amser hefyd cyhoeddi gwe- rifyn diweddaraf Cymdeithas Gwaith Maes ar gyfer Gwanwyn - Haf 2007.
  Cennin Pedr

Gobeithio bydd y cynnwys wrth eich bodd. Mwynhewch!

Yn sicr, yr ydym wedi cael gaeaf mwyn iawn unwaith eto yma yng Nghymru a diddorol oedd sylwi'r wythnos ddiwethaf, wrth gerdded ar yr Wyddfa, fod lefel y dŵr yn Llyn Llydaw (wrth droed y mynydd) yn isel iawn, gyda nifer o’r creigiau sydd fel arfer o dan lefel y dŵr yn glir i’w gweld! Dyma, fel arfer yw un o ardaloedd mwyaf gwlyb Prydain, gyda’r cyfartaledd glawiad blynyddol ymhell dros 4m! Ydi lefel y dŵr yn afonydd neu lynnoedd yn eich ardal chi yn isel y Gwanwyn yma? Beth fydd oblygiadau hyn dros gyfnod yr Haf? Mae rhai gwyddonwyr yn darogan mi fydd Haf 2007 yn un o’r rhai mwyaf poeth a sych ers blynyddoedd. Beth am gofnodi'r tywydd dros y misoedd nesaf yn y gobaith y byddwch chi hefyd yn medru cadarnhau (neu beidio!) yr hyn y mae llawer yn ei broffwydo… fod patrwm ein tywydd yn brysur newid!

llyn llydaw

‘Newid arall’ sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf yw’r newid mawr sydd wedi bod ar gopa mynydd uchaf Cymru! Mae’r ‘caffi’ bondigrybwyll bellach wedi ei ddymchwel ac mae’r adeilad newydd…"Hafod Eryri" yn brysur yn cael ei adeiladu.
Darllenwch fwy am y stori yma yn y rhifyn yma!

dathlu 50  

Yr ydym yn ffodus yma yng Nghymru ein bod yn byw mewn gwlad sydd a chymaint o dirweddau arbennig, ac mae un o’r ardaloedd mwyaf godidog, sef Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dathlu ei ben-blwydd eleni yn 50 blwydd oed.

Cewch ddarllen am y dathliadau sy’n digwydd yna yn y rhifyn yma wrth i’r Gwasanaeth Addysg sôn am y gweithgareddau fydd yn digwydd yno.

PEN-BLWYDD HAPUS I BARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG oddi wrth ddarllenwyr Gwaith Maes!

Mae Cymdeithas Gwaith Maes yn ceisio annog diddordeb pobl ifanc i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sydd yn ymwneud ac astudio ein hamgylchfyd. Cymdeithas arall sydd â nodau ac amcanion tebyg yw Cymdeithas John Muir. Yn y rhifyn hwn, cewch ddarllen am ei gwaith.
Os am fwy o fanylion, beth am gysylltu â’r Gymdeithas honno.

Tymor yr Haf ydi’r amser lle mae llawer o ysgolion a disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol, ac mae Ysgol San Sior, Llandudno wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau yn cydlynu prosiect sydd bellach wedi ei ymestyn i ‘bedwar ban byd!’ Mae llawer mwy i datws na mond ‘chips’, credwch fi!!! Os am fyw o fanylion, darllenwch yr erthygl am ‘Drap Tatw’.

Mae erthygl Angharad Williams yn y rhifyn yma yn edrych ar sut y gall gwersi Daearyddiaeth a Hanes gynorthwyo plant a phobl i ddysgu enwau a thermau Cymraeg trwy waith maes a dadansoddi mapiau ac awyrluniau.

A son am ‘enwau’, mae Duncan Brown ac eraill wedi bod wrthi yn ddyfal yn darganfod enwau newydd Cymraeg i’r dros 1000 o wyfynod (moths) sydd i’w cael ym Mhrydain. Mae llawer rhiant yn cael trafferth dewis enw i’w plant…meddyliwch feddwl am 1000!!! Mae’r broses yn un ddiddorol iawn. Beth am edrych ar y lluniau a gweld os ydych yn cytuno gyda’r enwau a fathwyd gan Duncan a’r criw?

Mae’r rhifyn hwn felly o Gwaith Maes yn llawn o erthyglau diddorol ac apelgar ynghyd a phos geiriau i’ch diddori. Rwy’n gobeithio fod yna rhywbeth at ddant pawb. Pob hwyl ar y darllen!

llofnod angharad a hywyn

 

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS © 2007

Beth hoffech chi weld ar wefan Gwaith Maes yn y dyfodol? Cliciwch yma i gysylltu