![]() |
||||
|
Dyma brosiect bach syml sydd yn ateb llawer o ofynion y ‘Cwricwlwm Cenedlaethol’ sydd yn hwyl, ac yn chwipio chwilfrydedd y plant. Beth am wneud trapiau tatw? Y syniad yn syml iawn yw bod plant yn dod a thaten i’r ysgol.
6. Yna agorwch y daten i weld sut fath o ymlusgiaid a phryfed fydd yn cysgodi y tu mewn i’r daten. Fe wnaethom y prosiect yma yn yr Ysgol, ac roedd y plant wrth eu boddau yn astudio’r neidr miltroed (nid neidr o gwbwl!) a gwrachod lludw (mochyn y coed), malwod ac ati. I wneud y prosiect ychydig yn fwy diddorol fe estynnwyd gwahoddiad i ysgolion o ben draw’r byd i gymryd rhan. Hyd yma mae ysgol ar bob cyfandir yn cymryd rhan yn ogystal â gorsaf wyddonol yn yr Antarctica. Tymor diwethaf ymunodd ysgolion o Dde’r Affrig, India a Seland Newydd y prosiect ac mae’r ysgolion yn anfon e-byst atom gyda lluniau o beth gafodd ei ddal.
Y nod yw bod plant yn dysgu am greaduriaid sydd yn byw mewn gwledydd eraill a chymharu'r rhain gyda chreaduriaid sydd yn byw ar dir yr ysgol, trwy gyfathrebu a’u cyfoedion yn hytrach na bod yn ddibynnol ar lyfrau a’r rhyngrwyd. Roedd yn ddiddorol i blant San Sior, Llandudno i gyfathrebu a phlant ym Motswana ac i sylweddoli fod plant o’r un oed yn gweithredu prosiect a gychwynnwyd yn San Sior mewn cymaint o wahanol wledydd mewn hinsawdd a chynefinoedd tra gwahanol. I gael hyd i bartner mewn gwlad arall gallwch ddefnyddio safwe www.globalgateway.org.uk a chofrestru eich ysgol. Hyd yma fodd bynnag dim ond pryfaid genwair a phryfed lludw sydd wedi cael eu dal mewn gwledydd go ecsotic. Dim tarantela na chwilenod lliwgar eto!!! I gyfoethogi’r prosiect yma rydym wedi edrych ar ffyrdd eraill o drapio pryfed. Erbyn hyn byddwn yn gosod trapiau gwyfynod ar dir yr ysgol pob noson yn ddi ffael ac mae partneriaeth wedi datblygu â gwarchodle Pensychnant yng Nghonwy. Mae pob gwyfyn sydd yn cael ei ddal yn cael ei gofnodi, a llun ohono yn cael ei bostio ar dudalen ar safwe'r ysgol www.welsh-moths.co.uk. Cafwyd dros 200 o rywogaethau haf diwethaf! Am wybodaeth bellach ewch i safwe’r ysgol www.sansior.co.uk a chliciwch ar brosiect tatw ar y dudalen Prosiectau Rhyngwladol. Neu beth am fuddsoddi rhyw £100 mewn trap gwyfynod a chymharu’r gwyfynod o amgylch eich ysgol chi â gwyfynod o amgylch Ysgol San Sior. Byddwn yn fwy na pharod i dderbyn gwybodaeth ganddo’ch a gwneud cyswllt.
|
|||
Gwaith Maes :: Rhifyn 34 |
||||