Mae geocaching yn ffurf o waith maes sy’n cwmpasu gwaith map, chwilio a dysgu cyfeirnodau trwy addysg awyr agored. Mae yna nifer o bosibiliadau traws cwricwlaidd wrth gymryd rhan yn y weithgaredd e.e daearyddiaeth, rhifedd, llythrennedd, sgiliau meddwl, cyfathrebu, TGCh ymysg nifer.
Mae yna filiynau o geocaches ar draws y byd. Mae'n gyffredin i bobl guddio geocaches mewn lleoliadau sy’n golygu rhywbeth iddynt, gan adlewyrchu diddordeb arbennig neu sgiliau'r perchennog. Gall y rhain fod yn lleoliadau amrywiol; efallai yn eich parc lleol, ar ddiwedd taith gerdded hir, o dan y dŵr neu ar ochr y stryd mewn dinas.
Mae geocaches yn amrywio o ran maint ac edrychiad. Yn y maes gallwch weld cache’s mawr metal, rhai plastig clir fel bocs brechdanau a rhai fel cynhwysydd ffilm ffotograffiaeth. Mae ambell un gwahanol hefyd, fel craig ffug gydag adran gyfrinachol.
Oes yna reolau i geocaching?
Dim ond ychydig. Fel arfer mae yna drysor yn y cache, eitemau bach a theganau rhad. Os ydych yn cymryd rhywbeth o'r geocache (neu "cache"), mae’n rhaid gadael rhywbeth o werth cyfartal neu fwy ynddo yn ei le.
Yr unig rheol arall yw cofio ysgrifennu rhywbeth am eich darganfyddiad yn llyfr log y cache.
|

|
Plant ysgol yn darganfod cache traddodiadol yn ystod taith gwaith maes ysgol. |
Yn aml gallwch ddod o hyd i ‘chwilen deithio, rhyw fath o ‘ddarn gem’ geocaching. Mae pob chwilen gyda chod unigryw. Trwy roi’r côd i mewn yn www.geocaching.com gallwch weld ei symudiad ar draws y byd. Mae rhai o'r eitemau hyn wedi teithio cannoedd neu filoedd o filltiroedd yn symud o cache i cache. Mae plant wrth eu bodd yn gwylio taith y chwilen ac mae’n bosib tracio’r daith ar google maps. Mae gan bob chwilen nod a osodwyd gan ei berchennog. Fel arfer mae’r nod yn gysylltiedig â theithio, megis i ymweld â phob gwlad yn Ewrop neu deithio o un cyfandir i un arall. Mae’r chwilod yn symud o gache i gache gyda chymorth pobl sy’n cymryd rhan yn y gêm.
Mae Ysgol Craig y Don ac Ysgol San-Sior, Llandudno wedi gosod chwilod deithio mewn nifer o caches, ac erbyn hyn mae nhw wedi cyrraedd yr Ynysoedd Dedwydd, Awstria a’r UDA!
|
Chwilen deithio darganfyddwyd mewn cache ar y Gogarth – cewch weld taith y chwilen trwy hofran dros y llun. Dechreuodd ei daith yn yr UDA!
|
|
Yn ein hysgol rydym wrthi’n cynllunio gweithgareddau sydd yn cyd-fynd a geocaching er mwyn bodloni disgwyliadau cwricwlwm CA2, yn enwedig y cwricwlwm sgiliau. Ar ben hynny, mae yna nifer o gyfleoedd awyr agored yn codi oherwydd geocaching; ar stepen drws yr ysgol ac yng nghefn gwlad Cymru gyfan. Dyma rai enghreifftiau o waith cwricwlwm a ddefnyddiwn yn ystod ein teithiau cerdded i gael o hyd i geocache neu ar ol cyrraedd yn ol i’r ysgol.
- Daearyddiaeth - gwaith map, cyfeirnodau, astudio’r gweledydd mae’r chwilen deithio wedi ymweld a hwy. Astudio gweledydd a lleoedd mae’r bobl sy’n cael hyd i’r geocache yn byw.
- Llythrennedd - Barddoniaeth synhwyrol am y daith gerdded. Ysgrifennu am daith y chwilen deithio. Ysgrifennu rheolau geocaching ar ffurf pamffled. Ysgrifennu llythyrau i’w rhoi yn y geocahe.
- Rhifedd - pellteroedd, gwaith data, cyfeiriadau.
- Hanes - Astudiaethau am leoedd lle ceir o hyd i cache - cestyll, y fynwent leol.
- TGCh - defnydd o’r We, defnyddio GPS, Googlemaps, cofnodi data ayb.
- Addysg Gorfforol - cyfeiriannu, addysg awyr agored, cadw’n heini.
- Gwyddoniaeth - adeiladu cadwyni bwyd neu astudiaeth bywyd gwyllt yn deillio o dystiolaeth a gasglwyd ar daith gerdded i gael o hyd i geocache yn y warchodfa natur leol.
- Celf - archwilio tirlun gwledig neu drefol fel man cychwyn ar gyfer gwaith 2 (neu 3) ddimensiwn.
- Dinasyddiaeth - Sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm. Dilyn cyfarwyddiadau. Edrych ar reolau a’r cod cefn gwlad.
Gyda’r holl son am fechgyn yn tangyflawni, a bod angen meddwl am weithgareddau diddorol, anturus a cyffrous ar gyfer ysbrydoli ein bechgyn, mae geocaching yn ateb yr holl ofynion yma ac mae bechgyn wrth eu bodd gyda’r syniad.
|

|
Hogia ysgol Craig y Don yn hapus ar ôl cael hyd i geocache yn ystod amser cinio |
Yn ein hysgolion ni, rydym wedi cuddio geocache fel rhan o’n prosiect rhyngwladol gyda gwledydd o Dde Affrica a Malaŵi. Rydym yn gobeithio bydd ein chwilod teithio yn cyrraedd y gwledydd yma cyn bo hir. Mae’r plant wrth eu bodd yn gwylio’r daith ac yn dysgu am y gweledydd mae’r chwilod yn ymweld a hwy.
|
Athrawon o Ysgol Craig y Don, Ysgol San-Sior ac Ysgol John Bright, Llandudno ac athrawon o Ysgolion o Gwlad Malawi a De Affrica yn cuddio geocache ar y Gogarth, Llandudno yn ystod ymwelad Hydref 2010
|
|
Mae’n hawdd iawn i gofrestru ar gyfer cymryd rhan mewn Geocaching. Ar ei lefel fwyaf syml, mae yna wyth cam i gychwyn y gêm:
1. Cofrestru ar www.geocaching.com - mae aelodaeth sylfaenol am ddim.
2. Cliciwch ar y dudalen ‘Hide and seek a cache..’
3. Rhowch eich cod post a chlicio 'chwilio. "
4. Dewiswch unrhyw geocache o'r rhestr a chliciwch ar ei enw.
5. Rhowch gyfesurynnau'r geocache i mewn i'ch teclyn GPS, neu argraffwch y dudalen os ydych am ddefnyddio map yn unig.
6.Defnyddiwch eich dyfais GPS er mwyn helpu chi i ddod o hyd i'r geocache cudd neu defnyddiwch y cliwiau ar y daflen os nad ydych yn defnyddio teclyn GPS.
7.Arwyddwch y llyfr log a rhowch y geocache yn ei leoliad gwreiddiol.
8.Gellwch rannu eich storiâu a lluniau ‘geocaching’ ar-lein.
Erbyn hyn mae nifer o ysgolion Cymru yn defnyddio geocaching fel rhan o waith maes yr ysgol. Mae’n ffordd hwyl, cyffrous a diddorol i gael plant allan yn yr awyr iach. Mae gen i enghreifftiau o blant sydd wedi gwrthod mynd am dro i lawr eu stryd lleol cyn heddiw, ond ar ol dweud wrthynt fod yna geocache ar diwedd y daith, mae nhw’n fodlon dringo mynydd!
Pob lwc a mwynhewch yr helfa drysor byd-eang!