Rhifyn 38
Lutra Lutra - neu'r DYFRGI – gan Dafydd Roberts
Mewn oes lle rydym wedi arfer clywed am brinhad gymaint o anifeiliaid a phlanhigion ar draws y byd oherwydd effeithiau pobl, mae’n braf adrodd ar anifail lle mae’r gwrthwyneb erbyn hyn yn wir ym Mhrydain.
Ond nid ydi pethau wedi edrych mor addawol i’r anifail yma - y dyfrgi (Lutra lutra i roi ei enw gwyddonol lladin iddo) bob tro. Fe’i helwyd ar draws Prydain hyd at 1975 pan basiwyd deddf i’w wneud yn anghyfreithlon. Ceir dipyn o hanes yr hela yma yn un o lyfrau gorau fy mhlentyndod, nofel Tarka the Otter, oedd yn olrhain hanes teulu o ddyfrgwn ar yr Afon Torridge ger Exmoor. Roedd y ffilm hynod boblogaidd ‘Ring of Bright Water’, stori am ddyn yn magu dyfrgi yng ngorllewin yr Alban, hefyd yn siŵr o fod yn bwysig wrth sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i atal yr hela.
Anifail eithaf mawr a swil yw’r dyfrgi yn mesur tua 1.1 metr o’i drwyn i ben ei gynffon. Afonydd a llynnoedd yw prif gynefin dyfrgwn, ond mae llawer ohonynt yn hela o amgylch y creigiau ar lan y môr hefyd. Gall ddyfrgi drafeilio hyd at 10 milltir mewn noson yn hela. Maent yn magu eu rhai ifanc mewn lloches ddiogel ar lan yr afon fel arfer e.e. mewn twll tu ôl i wreiddiau coed, a gall hyn fod ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Gellir gweld arwyddion o ddyfrgwn ar ffurf ôl-troed mewn mwd ar ochr afon, neu hoel cachu -ia, 'poo' wedi ei adael ar ben carreg yn yr afon i farcio tiriogaeth. Os gwelwch y 'poo' dyfrgi yma, gallwch weithio allan ei bryd olaf gan fod cen (scales) ac esgyrn pysgod iw gweld ynddo.
Roedd llai o ddyfrgwn i'w gweld rhwng 1960-80’au oherwydd fod ansawdd dŵr Ynysoedd Prydain mor ofnadwy gydag afonydd a nentydd mor llygredig na fedrant gynnal pysgod a llyffantod, sef prif fwydd y dyfrgi. Diolch i’r drefn, mae gennym ddeddfau amgylcheddol llawer gwell erbyn hyn sy’n golygu ei fod yn anghyfreithlon i ffactrïoedd ollwng eu sbwriel a’u gwastraff i’r nant agosaf. Os oes ffatri, busnes, neu hyd yn oed unigolion yn cael eu dal yn llygru cwrs dŵr heddiw, maent yn gallu derbyn cosbau o ddegau o filoedd o bunnau yn y llysoedd.
|
Nid yw pethau yn fêl i gyd i ddyfrgwn fodd bynnag.Er eu bod i’w canfod ym mhob sir ym Mhrydain unwaith eto, mae bygythiad iddynt gael eu taro gan geir ar ein lonydd. Bob blwyddyn mae dros 100 yn cael eu canfod wedi marw ar ochrau ffyrdd Cymru. Yn ddi-os mae hyn yn bechod mawr, ond o leiaf mae’n dangos bod niferoedd da o ddyfrgwn yng Nghymru unwaith eto, ac mae tîm o wyddonwyr ym mhrifysgol Caerdydd yn archwilio pob corff i wneud yn siŵr nad oes lefelau uchel o wenwyn yn eu cyrff.
Dyma lun o ddyfrgi gafodd ei ladd gan gar ger Arenig yn y Bala ym mis Awst cyn iddo fynd i gael ei archwilio.
|
 |
Gan fod y dyfrgi ar ben y gadwyn fwyd, mae’n gallu dweud wrthym os oes yna gemegau a llygredd yn hel yn yr amgylchedd ac yn y bwyd mae’n ei fwyta. Mae’n bwysig iawn wrth ddylunio ffyrdd a phontydd newydd fod sefydliadau fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried effeithiau posib ar ddyfrgwn. Gellir defnyddio ffensys i sianelu dyfrgwn oddi ar y ffordd ac o dan y bont, a gellir hefyd wneud llwybr o dan y bont i ddyfrgwn fedru croesi o dan y bont yn ddiogel. Enghreifftiau o rai bygythiadau eraill i ddyfrgwn ydi cael eu dal mewn rhwydi pysgota a’u boddi, neu eu dal a’u brifo mewn magl a osodwyd ar gyfer llwynogod, neu hyd yn oed eu herlyn yn anghyfreithlon gan bobl sy’n rhedeg busnesau pysgota sy’n gallu denu dyfrgwn yno i hela.
 |
 |
| Mathau gwahanol o dwnel sych sydd yn cael eu creu i'r dyfrgi fel nad oes raid iddo groesi ffordd. |
 |
Gwefr fawr yw gweld dyfrgi yn y gwyllt. Un o’r llefydd gorau ym Mhrydain i’w gweld yw ynysoedd gorllewin a gogledd yr Alban. Wedi dweud hynny, yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld ar ein hafon leol ar bedwar achlysur o ffenestr y llofft - yn y bore bach bob tro cyn bod gormod o bobl yn mynd a dod. Pob lwc i chi wrth chwilota!