Rhifyn 38
Gwneud bwydwr adar wedi ei ailgylchu
Yn yr Hydref, pan fo bwyd y gwrychoedd yn dechrau mynd yn brin, mae hi'n syniad da bwydo adar yn yr ardd.
Dyma ffordd syml o wneud bwydwr adar.........ac ailgylchu yr un pryd.
|
COFIWCH - mae gwanaol adar yn hoffi gwahanol fwydydd - rhai yn hoffi cnau, eraill had, a rhai yn hoff o bryfed marw. Gallwch brynu bwyd gwahanol ar gyfer eich adar o warchodfeydd yr RSPB, mewn canolfannau gwarddio ac mewn rhai archfarchnadoedd. Cofiwch gadw cofnod o'r adar sydd yn dod i ymweld a'ch bwydwr a pa fwyd maent yn ei hoffi.
|
- Rydych angen potel blastig - un sydd gyda caead.
- Torrwch dwll yn ei ochr sydd yn ddigon mawr i adael hâd dod allan, ond yn ddigon bach fel na fod yr hadau yn cwympo ar y llawr neu yn cael eu gwlychu pan fydd hi’n bwrw glaw. Byddwch angen cymorth oedolyn i wneud hyn - gwyliwch eich bysedd!


Diolch i'r RSPB am yr erthygl a'r lluniau