|

1. Mae'r adar yma yn mudo
i Gymru yn ystod yr Hydref.
Enwch yr adar, ac ymchwiliwch - o ble mae'r adar yn dechrau ei siwrne
er mwyn cyrraedd ein gwlad ni?
| 
|
Cliw - Meddyliwch am liw
adennydd yr aderyn yma, a lleoliad y lliw. Dylai ei enw fod
yn haws i'w ddarganfod wedyn. |
| |
|
| 
|
Cliw - Meddyliwch pa fath o aderyn ydwy,
a pa liw ydyw. |
| |
|
| 
|
Go brin fod angen cliw arnoch gyda hon.
Fedrwch chi ddarganfod cerdd amdani am 5 marc bonws? |
------------------------------------------------------------------------------------------
2. Pa un o'r anifeiliad yma
sy'n gaeafu?
a) Pathew
b) Gwiwer
c) Mochyn Daear
Pam bod rhai anifeiliaid yn gaeafu ac eraill yn
mudo?
Ymchwiliwch i draddodiadau a chwedlau oedd yn esbonio i ble roedd
adar yn mynd dros y gaeaf. Yn arbenning yr ŵydd yma:

------------------------------------------------------------------------------------------
3. Mae'r dail ar droi i liwiau'r Hydref.
Allwch chi adnabod y goeden o ble ddaeth y ddeilen.
------------------------------------------------------------------------------------------
4. O ba goed mae'r hadau yma yn ffrwytho
yn yr Hydref?

Ymchwiliwch ffyrdd i wneud 'concers' yn galetach
ar gyfer y gem draddodiadol. (Cofiwch wisgo sbectols diogelwch!!)

Darganfyddwch os mae rhain yn troi'n glocwedd neu'n
wrthglocwedd...

Sut fase chi'n defnyddio mochyn coed i ragdybio'r
tywydd?
------------------------------------------------------------------------------------------
5a) Ymwelydd prin iawn.
 |
Penglog!
Ond ar pa greadur fase chi'n dod o hyd i'r patrwm yma?
Darganfyddwch pam fod y creadur yn gwichian fel llygoden? |
5b) Gwyfyn bach (llai na 1cm ar draws) sydd
iw weld yn yr Hydref.
 |
Adnabyddwch ef.
Beth sydd yn arbenning am ei hadenydd? |
------------------------------------------------------------------------------------------
6. Bydd rhain yn chwilio am le i dreulio'r
gaeaf gyda hyn.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng broga a llyffant?
Llyffant neu broga sydd yn gaeafu ar waelod y pwll?

------------------------------------------------------------------------------------------
7. Ymchwiliwch i gylch bywyd gwas y neidr.
Am ba hyd bydd gwas y neidr yn byw yn y dŵr?

------------------------------------------------------------------------------------------
8. Ymchwiliwch i deithiau anhygoel rhai
o anifeiliaid Cymru.
e.e. yr eog, gwennol, morfilod. Fedrwch chi greu map i
ddangos eu siwrne?
------------------------------------------------------------------------------------------
ATEBION
| 1. |
a) Coch dan Adain o Llychlyn |
| |
b) Gwydd Ddu o Spitzbergen |
| |
c) Alarch y Gogledd o Wlad yr Ia |
| |
|
| 2 |
Pathew |
| |
|
| 3 |
a) Ffawydden |
| |
b) Sycamorwydden |
| |
c) Onnen |
| |
|
| 4 |
a) Castanwydden |
| |
b) Sycamorwydden |
| |
c) Coeden Binwydd |
| |
|
| 5 |
a) Gwalch Wyfyn y Penglog |
| |
b) Gwyfyn Ugain Pluen |
| |
|
| 6 |
Bydd y brogan yn cysgu ar y tir tra bod y llyffant yn tueddu
i gysgu ar waelod y pwll. |
| |
|
| 7 |
Gall gwas y neidr dreulio hyd at 3 mlynedd yn byw yn y dŵr
yn hela. |
|