blue spacer cymdeithas gwaith maesspacer
arwain addysg yr amgylchedd yng nghymruYN OL
spacerRHIFYN 35
blue line

llun o blant ysgolrhifyn newydd: 35

bocs bach Rhifyn 35
Gwaith Maes
bocs bach Hafod Eryri
Gan Wasanaeth Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
bocs bach Cwis Hydrefol
Gan Ian Keith Jones a Mark Hughes
bocs cartrefi Enwau Cartrefi
Gan Hywyn Williams
bocs bach Ditectif Hanes
Gan Angharad Williams
bocs bach Chwilair Tymhorol
Gan Gwaith Maes
bocs bach Holi am Hanes
Gan Ella Owens

 

 

 


 
 

Enwau Cartrefi

Er mai rhif 36 Heol y Plas' yw cyfeiriad fy nghartref, mae gan y tŷ enw hefyd, sef Pennant. Fy mam a'n nhad roddodd yr enw i'r tŷ a hyd heddiw nid wyf yn gwybod pam y penderfynwyd ar yr enw hwnnw.

Yn ôl fy mam "Ma' fe'n enw pert" a dyna'r unig esboniad yw rwyf wedi ei dderbyn am enwi fy nghartref yn Pennant er bod yna ddim 'nant' yn agos i'r safle!

Oes yna enw ar eich tŷ chwi?
Os oes, pam rydych yn meddwl fod yr enw arno?

Pa bynnag fo'r rheswm, mae gan nifer o dai enwau unigol ac mae yna nifer o esboniadau am yr enwau yma mae'n siŵr. A ydych wedi sylwi fod nifer o enwau a roddir ar dai yn enwau sy'n adlewyrchu'r ardal lle mae'r tŷ wedi cael ei adeiladu - 'Troed y Rhiw', 'Tŷ'r Ysgol', 'Tan y Foel' a 'Ger yr Afon'.

Yma yn Eryri, mae'r Wyddfa wedi dylanwadu a'r nifer o enwau a roddir i dai yn yr ardal ac mae llawer yn cyfeirio at y 'mynydd mawr' mewn rhyw ffordd neu'i gilydd - 'Trem yr Wyddfa', a 'Godre'r Wyddfa' yn ddwy enghraifft leol. Yn ardal Caernarfon a Sir Fôn mae dylanwad yr Afon Fenai yn amlwg iawn ar enwai rhai o'r tai sydd i'w gweld - 'Gwelfenai', 'Awel Menai' ac 'Awen Menai'.

Oes nodweddion daearyddol yn eich ardal chwi wedi dylanwadu ar enwau'r tai sydd i'w gweld yn lleol? Mae llawer o gartrefi wedi cael eu henwau oddi wrth y môr, mynydd, afon, cwm neu ffrwd ac mae'n siwr y byddwch yn medru gwneud rhestr go helaeth o enwai tai yn eich ardal sydd yn cynnwys un o'r nodweddion yma neu debyg - 'Isfryn', 'Cri'r Wylan', 'Ger y Nant' neu 'Golwg y Mynydd'. A oes perthynas rhwng yr enw a roddir ar dŷ a'i lleoliad? Mae'n siwr nad oes tŷ yn Aberhonddu a'r enw 'Gwelfor' ... Ysgwn i pam?

Heblaw am nodweddion daearyddol, mae nodweddion tywydd hefyd yn ddylanwad pwysig ar yr enwai a roddir ar dai ymhob ardal. Mae'r enw 'Bwlch y Gwynt' er enghraifft yn cyfeirio at enw tŷ sydd wedi ei leoli mewn man gwyntog rhwng dau fynydd efallai lle mae'r gwynt yn rhuo rhwng y bryniau ar noson stormus. Beth am 'Heulfryn'? Lleoliad tŷ ar dir uchel efallai sy'n derbyn pelydrau'r haul yn gyson drwy'r dydd mae'n siwr…enw mor addas ac ar yr un pryd un sy'n disgrifio'r safle i'r dim. Oes yna enw tŷ yn eich ardal chi sydd yn cyfeirio at nodwedd o'r tywydd yn yr enw?

Mae hanes lleol hefyd yn medru cael ei olrhain drwy sylwi a'r enwau hen dai mewn ardal arbennig. Tybed beth ydi'r stori tu ôl i'r tai sydd ac enwau megis 'Yr Hen Felin', 'Y Cartws', 'Ysgubor Coed' neu 'Y Stablau'.

Wrth i bobl symud o un ardal o Gymru i'r llall mae llawer o dai yn cael eu henwau oherwydd bod y bobl sy'n byw yno bellach wedi cael eu geni mewn rhan arall o'r wlad ond wedi cofnodi'r ardal enedigol honno yn enw'r cartref newydd. Yn nhref Caernarfon er enghraifft mae yna dy o'r enw 'Gwendraeth' ac mae enwau megis 'Gwynedd' ac 'Eryri' yn boblogaidd yng Nghaerdydd!

Ond weithiau, mae pob rheol yn cael ei daflu allan drwy'r ffenest wrth i rhai rhoi enwau digri ar eu cartrefi. Wyddoch chi fod yna dri brawd yn byw yn y Felinheli, Gwynedd ac roedd gan y tri gartref yr un. Roedd un yn gweld cloc y pentref o'i dŷ ac enw y tŷ yw Cloc Fiw (Clock View). Enw tŷ un arall yw Dim Fiw (no view), gan na welai fawr ddim o'r tŷ. Roedd gan y trydydd brawd olygfa wych o'i dŷ yn ymestyn draw dros yr Afon Menai am Sir Fôn. Rhoddodd yr enw Uffar o Fiw (Hell of a View) ar ei dŷ ef!

Wrth sylwi ar dai eich stryd neu o gwmpas yr ardal lle yr ydych yn byw, gallwch arsylwi ar enwau'r tai a cheisio egluro eu tarddiad trwy edrych ar eu lleoliad ac ar hanes yr ardal leol.

1. Gwnewch restr o enwau cartrefi pawb yn eich dosbarth gan geisio rhoi esboniad dros yr enwau diddorol sydd ganddynt.

Enw'r Tŷ

Eglurhad

e.e Glenville

Tŷ cyntaf Glen

Glanffrwd

Mae'r tŷ ger nant / ffrwd fechan

Ty Golchi

Yma roedd dillad pobl y Plas yn cael eu golchi. Mae ger afon i gael dŵr.

Tanws

Roeddent yn trin croen anifeiliaid yma i wneud lledr.

2. Os oes yna dai yn ymyl eich ysgol heb enw sylwch ar ei leoliad a cheisiwch roi enw iddo.

3. Gweithiwch mewn grŵp. Wrth gyfeirio at fap o'ch ardal mae pob aelod o'r grŵp i wneud rhestr o enwau tai y maent yn eu hoffi. Cyfnewidiwch eich rhestr chi gyda rhestr rhywun arall. Gwnewch fap/fraslun i roi lleoliad addas i'r tai.

argraffu Cliciwch yma am fersiwn argraffu o'r erthygl yma

 

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS © 2007

Beth hoffech chi weld ar wefan Gwaith Maes yn y dyfodol? Cliciwch yma i gysylltu