|

Hoffech chi ddarganfod
mwy am hen adeilad neu safle hanesyddol yn eich ardal?
Ddim yn siŵr ble i ddechrau neu ble i fynd
i ddod o hyd i'r atebion?
Mae sawl ffordd o fynd ati i ddarganfod gwybodaeth
am y byd hanesyddol o'ch cwmpas. Isod mae ychydig o ganllawiau cyffredinol
ynghylch pwy i gysylltu â hwy a ble i fynd i ddechrau dysgu
mwy am eich hanes lleol.

Ysgol Genedlaethol Llandeilo
© Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)
Lle amlwg i ddechrau chwilota am wybodaeth yw eich
llyfrgell gyhoeddus leol. Mae'r rhan fwyaf o adrannau cyfeirio llyfrgellydd
gyda deunydd am hanes yr ardal. Cewch gymorth gyda gwaith ymchwil
yn eich archifdy lleol hefyd. Yno mae darluniau, mapiau a phob math
o gofnodion am hanes eich cymdogaeth.
Bydd hi hefyd werth i chi ymweld â'ch amgueddfa
leol gan y bydd ganddynt wybodaeth am wahanol adeiladau a safleoedd
hanesyddol.
I gael manylion eich llyfrgell, archifdy neu amgueddfa
leol edrychwch ar wefan CyMAL,
sef is-adran Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n cynorthwyo â'r
gwaith o ddatblygu'r gwasanaethau hyn.
Gall sefydliadau cenedlaethol fod yn ddefnyddiol
iawn ac yn aml mae ganddynt ddeunydd gwahanol i'ch llyfrgell neu
archifdy lleol. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt swyddogion addysg sy'n
darparu gwasanaeth ar gyfer ysgolion a gallant drefnu ymweliadau
neu gynnig adnoddau addysgol.
Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru
Mae'r Comisiwn Brenhinol yn arolygu, yn dehongli ac yn cofnodi safleoedd
ac adeiladau hanesyddol ar hyd a lled Cymru. Mae'r wybodaeth hon
ar gael i'r cyhoedd drwy archif cenedlaethol a gwasanaeth gwybodaeth
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC).
Gall CHCC eich helpu i chwilio am wybodaeth am dreftadaeth
archeolegol, pensaernïol a hanesyddol Cymru gan gyflenwi amrywiaeth
o wybodaeth a darluniau. Mae esiampl o amrywiaeth y deunydd sydd
ar gael yn cynnwys awyrluniau o'r 1940au hyd heddiw, hen fapiau
Arolwg Ordnans, darluniau o furluniau, yn ogystal â manylion
a ffotograffau am wahanol adeiladau hanesyddol, ffermydd, chwareli
neu fwyngloddiau, camlesi neu gapeli.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau addysgol i'w
cael ar ei gwefan
neu gallwch chwilio'r gronfa
ddata ar-lein am luniau neu wybodaeth.
Mae gan y Comisiwn Brenhinol swyddog addysg sy'n darparu adnoddau
addysgol ac yn ymweld ag ysgolion.

Awyrlun o Aberystwyth, Mai 1946
© Hawlfraint y Goron: RAF / CBHC
Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell adnau cyfreithiol,
ac yn gartref i gasgliad mwyaf y byd o weithiau am Gymru a'r cenhedloedd
Celtaidd eraill. Nid dim ond llyfrau a llawysgrifau sydd yma - gallwch
hefyd bori drwy amrywiaeth o fapiau, cofnodion a gwaith celf.
Mae modd chwilio catalog ar-lein y llyfrgell ar ei gwefan.
Mae gan y Llyfrgell wasanaeth addysg ac maent yn croesawu ysgolion.
Amgueddfa Cymru
Drwy ymweld ag un o'r saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
gallwch ddysgu llawer mwy am Gymru, o'i diwydiannau i'w diwylliant.
Mae gwybodaeth bellach am gasgliadau a llyfrgelloedd yr Amgueddfa
ar ei gwefan.
Mae swyddogion addysg ar gael yn yr Amgueddfa i'ch helpu ac maent
yn darparu deunydd addysgol.

Rhan o Amffitheatr Rufeinig Caerllion, Gwent
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Fel arfer mae safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol
neu ryngwladol ar agor i'r cyhoedd ac mae eu tywyslyfrau a byrddau
gwybodaeth yn gymorth i ddysgu am hanes y lle. Er mwyn cael mwy
o wybodaeth ac adnoddau addysgol ynghylch cestyll a safleoedd hanesyddol
eraill yng Nghymru, edrychwch ar wefan CADW
neu wefan yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol.

Castell y Bere, Abergynolwyn
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Os ydych yn byw mewn Parc Cenedlaethol gellir dod
o hyd i fwy o wybodaeth am y byd hanesyddol yno ar eu gwefannau
neu drwy ymweld â'ch canolfan dwristiaeth leol.
Parc
Cenedlaethol Eryri
Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Parc
Cenedlaethol Arfordir Penfro
Gall swyddogion addysg y Parciau Cenedlaethol helpu
ysgolion sydd am drefnu ymweliad neu gallant ddarparu adnoddau addysgol.

Tref Y Bala, Gwynedd Awyrlun o 2001
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gofalu am ein hamgylchedd
hanesyddol yn ogystal â bywyd gwyllt. Ceir gwybodaeth am yr
adnoddau addysg, llyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth sydd ganddynt
neu am un o'u digwyddiadau ar eu gwefan.
Archaeoleg
Os mai darganfod mwy am archaeoleg neu safleoedd archaeolegol eich
ardal yw eich prif ddiddordeb, gall y sefydliadau canlynol eich
helpu a darparu gwybodaeth.
Amgueddfa
Genedlaethol Caerdydd
Comisiwn
Brenhinol Henebion Cymru
Cyngor
Archaeoleg Brydeinig Cymru
Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Clwyd-Powys
Archaeoleg
Cambria (Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed)
Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Gwynedd
Ymddiriedolaeth
Archaeolegol Glamorgan-Gwent
Maen Hir Gileston, Powys
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Hanes Teulu
Os ydych am ddarganfod pwy oedd yn byw yn eich tŷ 100 mlynedd
yn ôl neu am ymchwilio i hanes eich teulu, edrychwch ar wefan
1901 census online. Gallwch chwilio am bobl oedd yn byw yng
Nghymru a Lloegr rhwng y blynyddoedd 1841-1901 a gweld llun o'r
dogfennau gwreiddiol.
Byddai ymweliad â Llyfrgell
Genedlaethol Cymru yn fuddiol iawn wrth olrhain hanes eich teulu.
Gellir chwilio deunydd pellach ar wefan yr Archifdy
Cenedlaethol / The National Archives.

Ffermdy Garn, Llanychaer, Sir Benfro
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Hanes Lleol
Byddai haneswyr brwd yn elwa o ymaelodi â chymdeithasau archaeolegol,
hanesyddol neu hynafiaethol lleol neu fynychu cwrs dysgu gydol oes.
Efallai fod aelodau presennol rhai o'r cymdeithasau hyn ar gael
i roi cymorth i ysgolion gyda phrosiectau hanes lleol.
Mae Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru yn trefnu teithiau ac ymweliadau
blynyddol i wahanol safleoedd ac adeiladau hanesyddol. Mae mwy o
wybodaeth ar eu gwefan.

Hafod Arms, Pontarfynach, Ceredigion
© Hawlfraint y Goron: CBHC
Mae gan lawer o sefydliadau cenedlaethol a lleol
eraill ddiddordeb mewn hanes ac yn gallu eich helpu.
A
pheidiwch ag anghofio edrych drwy ffolder Hanes Gwaith Maes!
|