blue spacer cymdeithas gwaith maesspacer
arwain addysg yr amgylchedd yng nghymruYN OL
spacerRHIFYN 35
blue line

llun o blant ysgolrhifyn newydd: 35

bocs bach Rhifyn 35
Gwaith Maes
bocs bach Hafod Eryri
Gan Wasanaeth Addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
bocs bach Cwis Hydrefol
Gan Ian Keith Jones a Mark Hughes
bocs cartrefi Enwau Cartrefi
Gan Hywyn Williams
bocs bach Ditectif Hanes
Gan Angharad Williams
bocs bach Chwilair Tymhorol
Gan Gwaith Maes
bocs bach Holi am Hanes
Gan Ella Owens

 

 

 


 
 

hafod eryri

Mae yna gryn newid wedi bod ar gopa’r Wyddfa ers yr erthygl ddiwethaf. Ym mis Mai, dim ond sylfaen yr hen adeilad oedd i’w weld. Ydych chi yn cofio gweld y llun yma?

 © Eryri Bywiol / Snowdonia-Active

Mae cryn newid wedi bod ers hynny. Bellach, mae’r strwythr i’w weld yn glir. Mae’r ffram yn ei lle, mae’r tô wedi cael ei osod ac mae’r ffenestri i mewn. Mae’r adeilad felly yn ddiddos erbyn y gaeaf a bydd gwaith yn parhau tu mewn iddo yn y cyfnod yna i’w baratoi yn barod erbyn Haf 2008.

©APCE

Ers rhai misoedd bellach mae disgyblion Ysgol Gynradd Beddgelert ac Ysgol Gynradd Dolbadarn, Llanberis wedi bod yn paratoi deunyddiau er mwyn eu claddu am hanner cant o flynyddoedd mewn Capsiwl Amser sydd i’w gosod yn sylfeini’r adeilad newydd.

Mae’r deunydd mae’r plant wedi bod yn ei baratoi yn cynnwys straeon a lluniau teuluol, cofnodion sy’n adrodd hanes bywyd bob dydd o fewn eu hysgolion a’u cymuned a ffeithiau lleol. Ar y 22ain o Hydref, trosglwyddwyd gwaith y disgyblion i Carillion, y cwmni sydd yn gyfrifol am yr adeiladu. Bydd y gwaith yn awr yn cael ei osod yn y capsiwl cyn iddo gael ei lenwi a nwy arbennig a’i selio. Bydd yr adeiladwyr yn claddu'r capsiwl yn sylfeini’r adeilad newydd.

plant ysgol

Y bwriad yw ail agor y capsiwl ymhen hanner cant o flynyddoedd pan fydd y plant yn tynnu am oed eu pensiwn.

Gallwch weld mwy o luniau o’r datblygiad difyr yma trwy edrych ar y gwefannau yma: www.snowdonia-active.com a www.eryri-npa.gov.uk a cewch weld mwy yn y gwerifyn nesaf.

argraffu Cliciwch yma am fersiwn argraffu o'r erthygl yma

 

 

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS © 2007

Beth hoffech chi weld ar wefan Gwaith Maes yn y dyfodol? Cliciwch yma i gysylltu