| |

Ydych chi erioed wedi gofyn cwestiwn arweiniodd
at ateb gwirion? Do?
Wel dyna i chi enghraifft o gwestiwn gwirion. Cwestiwn
gafodd un gair fel ateb. Byddwn wedi hoffi cael gwybod beth oedd
y cwestiwn gwirion!
Wrth fynd ati i holi ei nain yn ddiweddar am ‘evacuees’
cafodd John drws nesa atebion swta/byr iawn. Dim yr atebion y byddai
wedi hoffi eu cael gafodd o.
Dyma rai o’i gwestiynau:
- Ydych chi’n cofio’r ‘evacuees’
yn cyrraedd?
Yndw
- Oedd yna lawer ohonyn nhw?
Oedd
- Pa iaith oedden nhw’n siarad?
Saesneg
- Faint oedd eich oed chi pan gyrhaeddon
nhw?
Saith
Llwyddodd John i gael ychydig o wybodaeth, ond
dim llawer. Wyddoch chi pam? Roedd yr atebion yn rai un gair. Nid
ar Nain John yr oedd y bai, ond ar y cwestiynau.
Tybed a fyddai’r rhain yn gweithio yn well?
- Pam ddaeth yr evacuees yma i
aros?
- Beth wyddoch chi amdanyn nhw?
- Sut y gwnaeth y dieithriaid
yma newid eich bywyd chi fel teulu, a bywyd yr ardal?
Dyma’r atebion a gafodd John y tro yma:
- Pam ddaeth yr evacuees yma i aros?
Roedd yn rhaid iddynt adael eu cartrefi yn y dinasoedd mawr
– Lerpwl, Manceinion a Llundain gan eu bod mewn perygl o
gael eu bomio. Anfonwyd nhw i gefn gwlad ble y byddent yn saffach
ond golygai hyn fod yn rhaid iddynt adael eu rhieni ar ôl.
- Beth wyddoch chi amdanyn nhw?
Roedd yr evacuees a ddaeth yma atom ni yn dod o Scotland Road
yn Lerpwl. Roedd hon yn ardal dlodaidd iawn o Lerpwl. Doedden
nhw ddim yn siarad dim Cymraeg, a ninnau yn siarad dim Saesneg.
Daethant a heintiau nad oeddem wedi clywed amdanynt gyda nhw -
Scabies ac Impetigo. Roedd y ddau yn haint ar y croen. Roedd yn
rhaid i ni gael bath sylffwr bob nos i gael gwared ohono, a gan
nad oedd gennym ddŵr yn dod allan o dap, roedd hyn yn dipyn
o strach. Roedd yn rhaid nôl y dwr o’r ffynnon a’i
gynhesu ar y tân cyn camu mewn i’r bath tin. Rwyf
yn dal i gofio’r arogl.
- Sut y gwnaeth y dieithriaid yma newid
eich bywyd chi fel teulu, a bywyd yr ardal?
Newidiodd naws yr ysgol a’r pentref yn llwyr. Aeth o
fod yn lle Cymreigaidd iawn i fod yn le lle clywech Saesneg ar
yr iard neu’r stryd. Roedd y faciwîs yn dysgu Cymraeg
yn gyflym, ond nid oedd yr un fath wedyn. Roedd y pentref yn llawn
o bobl ddieithr oedd am gyfnod yn methu cyfathrebu gyda ni. Yn
hytrach na bod dau neu dri o blant ar yr aelwyd, yn sydyn roedd
yna bump neu chwech, ac roedd ambell i ‘hen ferch’
wedi gorfod cymryd rhai hefyd gan fod ganddynt le yn y tŷ.
Roedd gwr a gwraig ddi blant hefyd yn gorfod cartrefu evacuees
er nad oedd ganddynt syniad o gwbl am fagu plant. Roedd llawer
ohonynt yn hyn ac yn fwy na ni ac am y tro cyntaf cefais fy mwlio.
Rhedais gartref o’r ysgol unwaith i osgoi merch oedd yn
gas tuag ataf a baglais ar fy hyd gan frifo fy mhen-glin. Bum
o’r ysgol am wythnos tra’r oedd yn gwella. Mae’r
graith dal gen i i gofio am y digwyddiad. Dychwelodd y rhan fwyaf
i Lerpwl ar ddiwedd y rhyfel byd, ond arhosodd un neu ddau gan
na ddaeth neb i’w nôl. Mae yna rai dal yn yr ardal
hyd heddiw a heb syniad o gwbl o beth ddigwyddodd i’w rhieni.
Dyna welliant. Mae John wedi cael yr atebion yr
oedd eu hangen ar gyfer gwneud ei waith cartref. Cofiwch chithau.
Os am atebion call, gofynnwch y cwestiynau iawn!
|
|