|

Croeso i we-rifyn diweddaraf Cymdeithas
Gwaith Maes.
Gobeithio bydd y cynnwys wrth eich bodd!
Yn y golofn yma yn y rhifyn diwethaf (Gwanwyn 2007)
yr oeddwn yn son am y nodweddion tywydd oedd yn arwyddion pendant
fod yr Haf ar y ffordd, ond serch yr arwyddion hynny, tywydd digon
siomedig y cafwyd dros y misoedd diwethaf. Ond efallai mai darogan
‘Haf Bach Mihangel’ yr oeddwn bryd hynny!
A do, fe gyrhaeddodd yr ‘haf bach’
hwnnw bellach ac yn gysylltiedig ar tywydd mwyn diweddar, ambell
i sylw go rhyfedd yn y wasg! Fe ddarllenais fod yna dystiolaeth
yn dangos fod yna lai o ddail wedi syrthio o’r coed eleni
na sydd mewn blynyddoedd blaenorol! Ydych chi wedi sylwi ar hyn?
Yr hyn dwi yn sicr ohono, mae’r lliwiau sydd ar ddail y coed
yr adeg yma o’r flwyddyn yn rhagorol ac yn ddigon o reswm
(os oes angen rheswm o gwbwl) i bawb i fynd allan am dro ac i weld
un o olygfeydd mwyaf godidog byd natur.
Ond beth am olrhain hanes ac ystyr ‘Haf Bach
Mihangel’ - Pwy oedd Mihangel? Oedd gan Mihangel bwerau darogan
tywydd efallai? Cwestiynau digon dilys i’w gofyn mae’n
siwr, ond dim ond drwy ofyn cwestiynau treiddgar yr ydym yn medru
darganfod nifer o ffeithiau diddorol i gefndir amryw o bynciau,
gan gynnwys pynciau amgylcheddol ac ati. Mae’n bwysig felly
dysgu sut mai geirio a holi cwestiwn yn y modd mwyaf effeithiol
er mwyn sicrhau'r ateb gorau. Yn y rhifyn yma o Gwaith Maes bydd
Ella Owens yn dangos sut mae defnyddio ein sgiliau llafar ac ysgrifenedig
er mwyn ‘geirio cwestiynau effeithiol’ a fydd yn ein
galluogi i gael atebion ardderchog i’n gwaith ymchwil. Dawn
arbennig iawn!

Mae defnyddio geiriau yn y ffordd fwyaf effeithiol
felly yn medru cyfleu nifer fawr o wybodaeth a drwy edrych ar fap
o Gymru gallwn ymfalchïo fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio
mewn modd effeithiol iawn wrth roi enwau priodol iawn i leoliadau
yn ein gwlad. Beth am yr enw ‘Penrhyndeudraeth’ er enghraifft
- enw penigamp ar aneddiad sydd wedi ei leoli ar ‘benrhyn
rhwng dau draeth’ - sef aberoedd yr afonydd Glaslyn a ‘r
Dwyryd. Yr y rhifyn yma o Gwaith Maes mae yna ddwy erthygl sy’n
disgrifio sut y gall astudio enwau cartrefi a lleoliadau yn eich
ardal chi ddeud cymaint am hanes a thirlun y lleoliad hwnnw. Beth
am ddarllen yr erthyglau yma ac yna creu rhestr o enwau yn eich
ardal chi lle y medrwch astudio ymhellach.
Mae enwau lleoliadau a geir ar fap o Gymru wedi
ei sefydlu ers tro byd ond un enw ‘newydd’ a geir yn
y dyfodol yw Hafod Eryri - sef enw'r Ganolfan Newydd ar Gopa’r
Wyddfa. Yn ystod y rhifynnau diwethaf o Gwaith Maes yr ydym wedi
eich hysbysu am y newyddion diweddaraf am yr adeilad newydd ar y
copa. Yn y rhifyn yma cewch eto'r newyddion diweddaraf ynghyd a
hanes disgyblion Ysgolion Cynradd Beddgelert a Llanberis, sydd,
dros y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn yn paratoi deunydd,
a fydd yn cael ei gladdu mewn ‘capsiwl amser’ ac yna
ei roi yn sylfaen yr adeilad newydd. Bwriedir ail-agor y capsiwl
yn y flwyddyn 2057!
Mwynhewch y rhifyn yma o Gwaith Maes ac os oes gennych
stori ddiddorol am ‘waith maes’ yr ydych yn ymwneud
ag ef ar hyn o bryd, be am anfon eich erthygl atom yma ac fe fyddwn
yn falch iawn o rannu eich profiadau diddorol gyda gweddill ein
darllenwyr.
Hwyl am y Tro!

|