Rhifyn Newydd 38   ‘Dŵr a'r dyfodol’

Gawsoch chi haf braf?
Fuoch chi ffwrdd am wyliau rhywle poeth, ar lan môr neu wnaethoch chi fentro am yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala a chael cyfuniad o haul a glaw ar lan Llyn Tegid?

Fues i yn teithio o amgylch Prydain gryn dipyn a cefais y fraint o gysgu ar lan dau lyn mawr. Llyn Tegid ger y Bala oedd y cyntaf tra roedd yr Eisteddfod yno. Penderfynnodd yr haul ddod allan am ddyddiau yn ystod yr Eisteddfod ond erbyn cyrraedd  Llyn Windermere yn Ardal y Llynnoedd wnaeth hi ddim byd ond bwrw glaw.

Mae gan y ddau lyn yma sawl peth yn gyffredin

  • Maent wedi eu lleoli mewn parciau cenedlaethol – PC Ardal y Llynnoedd, y cyntaf  yn Lloegr a PC Eryri – y cyntaf yng Nghymru
  • Mae’r ddau wedi eu creu gan rewlifiant
  • Mae’r ddau yn fawr – y llynnoedd naturiol mwyaf yn eu gwlad. Llyn Tegid yn 4 milltir o hyd a bron i filltir o led, a llyn Windermere yn 10 milltir o hyd a milltir o led – wow.
  • Mae gan y ddau geiri Rhufeinig ger eu glan
  • Mae’r ddau yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i fwynhau’r golygfeydd ac i wneud defnydd o’r dŵr.

Ond mae yna wahaniaethau rhyngddynt hefyd, yn bennaf oherwydd un defnydd penodol. Chewch chi ddim mynd a chwch modur ar Lyn Tegid oni bai ei fod yn gwch awdurdodedig benodol, fel cwch y warden a chwch Glanllyn neu’r clwb Hwylio lleol,tra ar Lyn Windermere gallwch ddefnyddio cwch modur fel tacsi – y ffordd gyflymaf o fynd o un ochr o’r llyn i’r llall, a cewch deithio trwy'r dydd ar gwch modur pleser eich hun arno.

Mae rheolau mewn grym ar Lyn tegid er mwyn gwarchod ei amgylchedd - dŵr y llyn a’i greaduriaid unigryw fel y Dyfrgi swil a'r gwyniad ac er mwyn atal gwrthdaro rhwng defnyddwyr. Gallwch ddarganfod mwy am wrthdaro oherwydd dŵr trwy ddarllen yr erthygl am Ynys Môn ar y chwith. Mae'r RSPB yn dod a chi ychydig yn agosach at natur yn eu herthygl nhw am warchodfeydd a chewch wneud bwydwr adar yn 'Prosiect yr Hydref'

Felly digon o straeon diddorol yn y rhifyn yma o Gwaith Maes. Os hoffech chithau weld erthygl am rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn yr ysgol yn y rhifyn nesaf, gadewch i ni wybod.

Hwyl am y tro 

Llofnod Hywyn Williams

llofnod Angharad Harris

Dylunio a Cyflwyno gan WiSS
Hawlfraint Gwaith Maes 2009

Ebost:
Allweddair:
Gyrrwch y cyfrinair